Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

teddfod Caerfyrddin yn 1819, eisteddfod Wrexham yn 1820, eisteddfod Caernarvon yn 1821. Yr oedd hyn yn gychwyniad o'r newydd i'r eisteddfod. Cyhoeddwyd y Tourist's Guide to Caernarvon gan P. B. Williams yn 1821, a dywed ef (t. 90) fod Cymdeithas y Cymreigyddion yng Ngwynedd wedi ei sefydlu yn ddiweddar yng Nghaernarvon, a bod yr enw mewn coffhad am Gymdeithas Cymreigyddion Llundain a sefydlwyd yn 1751. Rhydd Robyn Ddu ar ddeall yn ei Deithiau (t. 21) mai efe a gwr ieuanc arall o fardd, Lewis Davies, a sefydlodd y Gymdeithas hon yn y Gerlan (Royal Oak oedd enw arall), tŷ Robert Hughes yr eilliwr yn Heol y Castell. Daeth amryw o fasnachwyr mwyaf cyfrifol y dref ynghyd, a Richard Jones (Gwyndaf Eryri) hefyd, a ddewiswyd yn fardd. Gwnawd Richard Williams cyfreithiwr yn gadeirydd, Capten Robert Williams y Deptford yn is-gadeirydd, John Jones cyfrwywr yn drysorydd. Yn y papurau trefol yng ngofal Mr. R. O. Roberts, fe ddywedir fod Cymdeithas y Gwyneddigion wedi ei sefydlu yng Nghaernarvon, Ionawr 23, 1823. Richard Williams oedd y cadeirydd ac O. W. Owen yn is-lywydd. Yr aelodau cyntaf: Peter Evans argraffydd, Hugh Griffith Hughes, Daniel Williams, Henry [?Hugh] Parry ysgrifennydd, Thomas Evans, R. Griffith, E. Richards [teiliwr], William Hughes T[own] S[ur- veyor], Robert Parry Pt [poet, sef Robyn Ddu Eryri, mae'n ddiau], William Dew, Rd Rowland, Richd Roberts [Castle] Green, Robt. Roberts C. H., W. Evans, H [?] Lewis, John Prichard, J. Powell, Edwd. Price, Thos. R. Roberts, John Jones, W. R [?] Jones. Dyma fel y geirir y rheol gyntaf: "Boed prif amcanion y Gymdeithas hon i gynnal a choleddu yr iaith Gymraeg a'i barddoniaeth, a chynyddu gwladol a brawdol gyfeillgarwch, ac hefyd er mwyn gwellhau a gloewi gwybodaeth y naill y llall, fel y byddont hwylusach yn eu holl alwedigaethau; gan hyfforddi y naill y llall, hyd eithaf eu gallu, mewn dyledswyddau dynolryw ac ymwrthod â dichell-gynnen a gormodedd; a gwarafun eu gilydd rhag arferyd ymddiddanion drwg, yr hyn a lygra foesau da, ac ymofyn am wybodaeth fuddiol; chwilio ac arloesi anghallineb o'u plith, ac annog eu gilydd i fyw yn y byd presennol—parchu'r sawl a fo'n haeddu parch, a cheryddu y neb a fo'n amharchu ei hun ac eraill." Yr oedd y cyfarfod i'w gynnal bob yn ail nos Iau o 8 hyd 10. Rheol arall ydoedd, os ymddanghosai