Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aelod yn feddw yn y gymdeithas fod dirwy arno o 2g. a'i fod i'w ddiarddel am y noswaith honno. Rheol arall fod 2g. o ddirwy am reg neu lw. Dyma rai o'r pynciau yr ymdrinid â hwy: Pa un waethaf er lles ei deulu, ai dyn diog ai dyn meddw? Pa un sydd fwyaf niweidiol ar les cymdeithas, ai cenfigen ai gweniaeth? Pa un gyntaf, ai gwybodaeth ai dealltwriaeth? Dywed Robyn Ddu (t. 29) fod y Cymreigyddion yn hynod lewyrchus pan sefydlwyd y Gwyneddigion, ac mai cenfigen at Robert Hughes a barodd hynny. Dywed mai yn yr Union Tavern y sefydlwyd y Gwyneddigion, a gwelir mai yr un un oedd y cadeirydd yma hefyd, a bod Robyn Ddu ei hunan yn un o'r aelodau, ac yn fardd y gymdeithas newydd. Ymhen rhyw ysbaid wedi hynny fe sonir ganddo am y Cymreigyddion yn cyfarfod yn y Crown (t. 33), ac yntau yn eu plith.

Dywed Mr. John Jones (y Druid) fod "dosbarth," fel ei gelwid, sef cyfarfod â'i amcan i eangu'r meddwl drwy wybodaeth ddiwinyddol, a chyffredinol feallai, yn cyfarfod yng nghapel y Sandemaniaid yn Nhreffynnon cyn agor capel Engedi yn 1842.

Sefydlwyd cymdeithas lenyddol yn Engedi yn fuan ar ol agoriad y capel. (Edrycher Engedi). Ail gychwynnwyd cymdeithasau llenyddol y dref gyda dyfodiad y bugeiliaid Methodistaidd cyntaf. Yr oedd cymdeithas lenyddol yn cael ei chynnal yn y Bontnewydd gan Ddafydd Ddu Eryri rai blynyddoedd o flaen y gyntaf o'r cymdeithasau a nodwyd. Cymdeithas Eryron y gelwid hi. Yn hon, Tachwedd 24, 1816, y rhowd ei enw i Wilym Cawrdaf (Gweithiau Awenyddol Cawrdaf, t. xiii.). Yr ydoedd Cawrdaf ar y pryd yn cynorthwyo ei gefnder, L. E. Jones, argraffydd yng Nghaernarvon.

Y mae gan Anthropos, yn ei ysgrif Oriel Atgof, sylwadau ar y gwahanol gymdeithasau llenyddol yn y dref, fel y gwelodd efe hwynt yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ol eu sefydlu. Dyfynnir yma: "Onid ydyw y cymdeithasau llenyddol yn un o nodweddion Caernarvon? Y mae'r ysbryd llenyddol wedi bod yn cyniwair yn y dref ers llawer dydd. Y mae yn fwy o ddylanwad arni nag ysbryd y castell. . . . Un ydoedd Moriah. Y llywydd sefydlog ydoedd y Parch. Evan Jones, y gweinidog; ac yr oedd ei ddelw ef ar y gymdeithas ac ar ei haelodau. Nid oedd yno fwy na dau ddwsin i'w gweled yn y cynhulliad; ond yr oeddynt yn siaradwyr dan gamp. . . .