Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyffelyb ydoedd ambell gyfarfod i ymrysonfa'r bel droed. Gwahoddid fi neu arall i agor y mater, ac yna dyna'r scrimmage. ... Deuwch... i Salem yn nyddiau nerth a grymuster Dr. Herber Evans. Yr oedd arnaf ofn Herber. . . . Fel pob dyn mawr—gwir fawr—meddai efe'r peth cyfrin hwnnw sy'n bwrw allan ofn. Yr oedd yr olwg arno fel heulwen haf, ac nid ymguddiai dim rhag ei wres ef. Nid llywydd y gymdeithas yn unig ydoedd Herber: efe oedd y gymdeithas. . . . Gadewch i ni groesi'r heol. . . . i Ebenezer. . . . Llond y lle o bobl; tan mawr eirias yn y pen draw; a phe deuai rhyw ia—fryn llenyddol i'r fangre cawsai ei doddi yn llymaid! . . . Mewn brwdfrydedd ysbryd anhawdd fuasai rhagori ar Ebenezer. Ond yr amser a ballai i mi son am gymdeithasau eraill:

Rhy fyrr y tro i fwrw trem
Ar Siloh a bro Caersalem.

Dim ond gair am... Engedi. Yma y bum yn annerch. gyntaf ar ol dyfod i dref Caernarvon. Nid oedd ond ychydig bersonau yn wyddfodol y noswaith honno . . . . y Parch. Evan Roberts . . . . Mr. John Davies (Gwyneddon), a Mr. John Edmunds. . . . Bum yma lawer gwaith wedi hynny, a gwelais y gymdeithas, megys y cymdeithasau eraill yn y dref, yn graddol dyfu. . . ."

Dyfynnir yma o ysgrif Alafon ar Gaernarfon Lenyddol: "Y lle y mae fy meddwl yn rhedeg iddo gyntaf yw siop ddi— fost Ioan Arfon. . . . Ni welwyd neb yn sefyll yn fwy syth, nac yn fwy tawel, nac yn fwy urddasol, wrth fwrdd. masnach siop, nag y safai efe. . . . Mor falch oedd efe o weled ei fab Robert (Elphin heddyw) yn llwyddo mor hwylus yn yr ysgolion, ac yng ngholeg Aberystwyth! . . . . Cyfnod dyddorol yno oedd cyfnod y frwydr fawr rhwng Alfardd ac Ioan Arfon â'r Barnwr Homersham Cox a'i fath, oedd am gau yr iaith Gymraeg o'r llysoedd gwladol yng Nghymru. . . . William Pierce hefyd, a gafodd y ffugenw Sanddef gennym, sydd yn awr yn weinidog un o brif eglwysi Anibynol Llundain, . . . . yntau ar y pryd yn un o'r gofalwyr am yr Herald Saesneg. Mynychach ymwelydd. . . . oedd Gwilym Alltwen, tra fu yng Nghaernarvon. Ac efe, os iawn y cofiaf, a dde— chreuodd roddi Y ac Yr o flaen ffugenw beirdd. . . . Cynddelw yntau, batriarchaidd wr . . . . a fyddai'n galw yno