Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bron bob dydd. . . . Ryw dro, pan oeddwn i yn sefyll ar gwrr maes Caernarvon mewn llu, yn gwrando ar wraig dafodrydd yn cymell ei nwyddau, daeth Cynddelw heibio; a chan roi ei law ar fy ysgwydd, ebai efe yn fy nghlust,—

.
O fy mab! tyrd hefo mi:
Disynnwyr gwrando Siani.

Ond o bawb a welid yng Nghaernarvon yr hynotaf a'r mwyaf cofiadwy oedd yr hyglod Owen Williams o'r Waunfawr. . . . Amheuthyn rhyfedd a fyddai gwrando ar Y Llyfrbryf a Ioan yn trafod ynghylch y Geiriadur, a phynciau eraill, gydag Owain Gwyrfai. . . . Mynych y byddai'r Llyfrbryf yng Nghaernarvon yn yr amser gynt. . . .Dyna Owen Gethin Jones, o gynnes goffadwriaeth, . . . a fyddai yno yn bur fynych. . . . Beirdd eraill a ymwelent â Chaernarvon yn bur fynych . . . oedd Hwfa Môn, Iolo Trefaldwyn, Mynyddog a Thudno, yn enwedig Iolo a Mynyddog. . . . Tri llenor a ymwelent yn achlysurol âg Ioan Arfon oedd Y Thesbiad, John Morgan o Gadnant a Chorfanydd. . . . Bardd o ddosbarth arbenigol oedd Bro Gwalia, fel y mae ei enw yn dangos. Ni fyddai neb yn cerdded heolydd Caernarvon â golwg mwy awdurol arno. Fe fyddai ganddo well het silc am ei ben, a gwell dillad am dano, na'r Bardd Cocos o Lanfairpwllgwyngyll; a throsedd mawr fyddai cystadlu y bardd hwnnw âg ef. Nod arwydd Bro Gwalia oedd rhôl amlwg o bapur yn ei law. . . . Siop Gwyneddon hefyd. . . . Yr oedd ef yn wr cyfarwydd yn llenyddiaeth Cymru, ac yn feirniad craff a chywir. Yr oedd wedi tyfu mewn awyr lenyddol o'i febyd, ac yr oedd ganddo lawer o gofion dyddorol am nifer mawr o wyr llen. . . . Nid llawer oedd i'w cael allai godi Yr Hen Waunfawr i well hwyl nag y gallai ef. Gymaint o wleddoedd a gafwyd yn ei siop wrth wrando ar yr hen brydydd yn son am Ddafydd Ddu a Gutyn Peris a Gutyn Padarn a Gwilym Cawrdaf. . . . Fel y mae'n hysbys, fe fu Gwyneddon, tra yn Heol y bont bridd, yn cyhoeddi'r Goleuad. . . . . Nid anniddan chwaith a fyddai'r ymweliadau â siop Mr. Hugh Humphreys a siop Ioan Mai, y cyntaf yn ymbleseru mewn dangos a chymell darluniau o enwogion, a llyfrau gwŷr o fri, a'r ail yn darllen cyfieithiad da neu englyn o'i waith. . . . Mwy diddan na hynny a fyddai orig yn y Liver, gyda Mr. M. T. Morris, a'r dawnus wyr a