gantawd wladgarol—Owain Glyndwr'—y geiriau a'r miwsig ganddo ef ei hun—lawer blwyddyn cyn iddo symud i Gaernarvon. Ac yr oedd Bugeiles y Wyddfa yn un o'r caneuon mwyaf poblogaidd... Y mae awdwr Aylwin wedi gwneud cryn ddefnydd o'r gân. . . . Efe, mewn modd neilltuol, ydoedd bardd y Wyddfa. Yr oedd ambell eclips yn hanes Eifioneilydd. . . . Yr oedd Eifioneilydd yn areithydd dihafal yn ei ddull ei hun. Yr oedd defnydd tragedian ynddo,—tebyg i Irving. Ni feddai ddim o'r elfen nwyfus a chwareus; ond yr oedd yn medru disgrifio'r brawychus a'r ofnadwy. Braidd na theimlem wrth ei wrando ein bod yn sangu ar ymylon gorffwylledd, megys pe gwrandawem ar awen wallgof Edgar Allan Poe. . . . Clywais ef yn gwneud defnydd effeithiol o'r Drama of Exile gan Mrs. Browning, ac yn darlunio'r Gorchfygwr Dwyfol yn arwain y march gwelwlas at orsedd yr Ior—
With a hand upon his mane,
And a whisper in his ear.
Braidd nad allaf glywed y whisper hwnnw yn aros ar fy nghlust hyd y dydd hwn! Gwrandewais arno yn cyfaddasu un o ystorïau dychmygol Edgar Allan Poe—the Pit and the Pendulum—at hanes y meddwyn a'i ddrws ymwared. Ond wedi cyfnod o ysblander cyhoeddus, ciliai o'r golwg, a deuai llen. dywyll dros wyneb yr haul."
Ymherthynas â'r rhai y sonir am danynt yn y ddwy ysgrif uchod, gellir nodi mai aelod ym Moriah oedd John Evans Jones; mai aelodau yn Engedi oedd Gwyneddon, Menaifardd, Andronicus; mai blaenor yn Castle Square oedd James Evans; ac y bu Eifioneilydd yn athro yn ysgol Engedi, yn aelod yn Castle Square, yn aelod ym Myddin Iachawdwriaeth. Yr ydoedd ef yn fab i'r Parch. David Davies yr exciseman, a fu'n aelod yn Engedi ac yn y Bontnewydd.
Yr oedd yn y dref, yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato yn y ddwy ysgrif hyn, rai gwŷr eraill lawn cyn hynoted, at ei gilydd. a'r rhai y sonir am danynt ynddynt hwy, heb fod bob amser yn feirdd neu lenorion cydnabyddedig, a hynny dros ben y rhai y traethir arnynt yn hanes yr eglwysi. Yr oedd J. C. Rowlands yn arlunydd coeth, ac yn wr yn cymeryd dyddordeb mewn hynafiaethau Cymreig, cystal a'i fod o gymeriad uchel. Yr oedd Leon, y gwr a fu'n tynnu lluniau mewn olew ym mas-