Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nachdy Hugh Humphreys, yn gelfyddydwr gwych, pell tuhwnt i'w sefyllfa yno. Yr oedd Nanney, un o'r ddau frawd o'r enw, ac a breswyliai yn ardal Beddgelert yn ei flynyddoedd olaf, heblaw ei fod yn wr urddasol yr olwg arno, a chyda rhywbeth myfyrgar a phell yn ei edrychiad, yn efrydydd ar awduron cyfriniol o ryw ddosbarth, megys A. E. Waite, A. P. Sinnett, a lliaws eraill. Yr oedd Jonathan Jones, goruchwyliwr treth yr incwm, yn wr go urddasol yr olwg arno, a chyda rhyw dawelwch yn ei ddull i graffu arno, o leiaf yn ei flynyddoedd diweddaf. Gwelid ef weithiau yn y blynyddoedd hynny wrth lan y môr neu fannau eraill, yn amlwg wedi ei lyncu mewn myfyrdod, a hwnnw'n fyfyrdod ar y byd ysbrydol, fel, rywfodd neu gilydd, nas gallesid peidio â chasglu. Yr ydoedd yn efrydydd o fewn rhyw gylch ar hynafiaethau Cymreig. Fe ddengys y copïau o ddau lyfr a ddarllenid ganddo, ag sy'n digwydd bod wrth law, sef Taith y Pererin a'r Bardd Cwsc, ei fod yn efrydydd manwl iawn ar rai llyfrau. Y mae ganddo nodiadau ymyl-ddalennol i'r rhai hyn yma ac acw, yn cymharu gwahanol rannau o honynt â'i gilydd, ac â llyfrau eraill; ac y mae i'r naill a'r llall fynegai helaeth a manwl i'r materion a gynwysir ynddynt. Meddai ar gasgl lled helaeth a gwych o lyfrau. Yr oedd Thomas Hobley yn wr o ddiwylliant eang, ac o allu cryf ym myd masnach a byd llyfrau, cystal a'i fod yn wr o ddawn gymdeithasol nodedig. Darllenai bob llyfr yn dwyn cysylltiad â chrefydd, ac a dynnai sylw arbennig iawn ar y pryd, megys y Vestiges of the Natural History of Creation, yr Essays and Reviews, Ecce Homo, yr Unseen Universe; a'r un modd bob ysgrif o'r nodwedd honno ynglyn â chrefydd neu wladweiniaeth yn y misolion a'r chwarterolion Seisnig; a gallai gyfleu eu prif bwyntiau yn rhwydd mewn ymddiddan. Darllenodd amryw o'r prif lyfrau mewn diwinyddiaeth ac athroniaeth; a gofalai am ymgydnabod â phrif symudiadau meddwl drwy gyfrwng yr Expositor neu gylchgronau eraill; ac yr oedd yn hoff o ddadleu ar y cyfryw bynciau, yr hyn a wnae efe gyda deheurwydd na chyfarfyddid yn fynych a'i ragorach neu ei gyffelyb. Bu dosbarth yn cyfarfod yn ei dŷ am lawer blwyddyn, yn darllen rhai o'r llyfrau a nodwyd ac eraill, ac yn ymgydnabod â syniadau John Stuart Mill, Syr William Hamilton, Mansel ac eraill. Ymhlith y gwyr a ddeuai i'r dosbarth hwnnw yr oedd John Evans, M.A., yr ysgolfeistr, wedi hynny o Groesoswallt, ac aelod ym Moriah, William