Williams a Robert Evans y pregethwyr, Robert Roberts y Cross a Hugh Owen, y ddau yn flaenoriaid yn Engedi, Evan Evans y cwriwr, Menaifardd. Nid yw Alafon ond yn cyffwrdd âg enw Menaifardd. Gyda rhyw goll mewn sefydlogrwydd nodweddiad, yr oedd ef yn wr parod gyda phob math ar orchwyl, yn athro deheuig yn yr ysgol Sul, ac yn nodedig o effeithiol gyda hynny dros ryw gyfnod; yn ysgrifennydd ysgol deheuig a gwasanaethgar anarferol am rai blynyddoedd yn Engedi; yn rhyw gymaint o gerddor, o lenor, ac o fardd; yn un o'r rhai parotaf fel arweinydd mewn cyfarfodydd cyhoeddus o wahanol fath; yn gynllunydd tai, yn gyfrifydd wrth ei alwedigaeth, yn ysgrifennydd gwahanol fudiadau. Yr oedd yn wr tra haelionus. Symudodd i'r America, a phan ddychwelodd oddiyno i farw, yr oedd rhywbeth yn arwyddo sobrwydd meddwl sefydlog yn ei wedd. Ni roir yr enwau hyn ond fel enghreifftiau, a gwyddis fod eraill teilwng o'u hatgoffa yn y cysylltiad hwn; ond arhoswyd gyda'r rhai y digwyddid fod yn gwybod mwyaf am danynt.
Dywed Mr. Thomas Jones Bronydre y dengys map Speed fod ysgol rydd yn y dref yn 1610, yn sefyll lle mae y neuadd sirol yn awr.
Sonia Robyn Ddu, mewn atgofion o'i eiddo am y dref, am Daniel Pritchard, a anwyd yng Nghaernarvon yn Heol y goron yn 1796. Rhoes ei rieni diwyd addysg i Ddaniel. Saer coed ydoedd, "lled gywrain yn ei waith ac awyddus am lyfr." Symudodd ei rieni i Benrallt ddeheuol yn 1811. Cychwynnodd Daniel ysgol yn ei weithdy, gan weithio gyda'i grefft a chynnal yr ysgol ymlaen yr un pryd. Amgylchynid yr ystafell â meinciau llawnion o blant bychain. Ar y cychwyn rhoid i'r plentyn ddernyn o bren amrywonglog, a llythrennau'r wyddor ar y naill wyneb a'r llall ohono. Wedi dysgu hynny rhoid i'r plentyn ddarn pren ag arno eiriau neu rifnodau. Ar y parwydydd yr oedd rhesi o wahanol fath ar greaduriaid wedi eu lliwio fel wrth natur, a dysgid eu henwau i'r plant. Dysgid rheolau rhifyddiaeth gyda chymorth mân belennau. Dodid rhai wrth ei gilydd neu tynnid rhai oddiwrth ei gilydd, ac yna gofynnid am y rhif. Dysgid iddynt rif dyddiau'r flwyddyn a pha faint a wnae ceiniog y dydd mewn blwyddyn; ac yna er mwyn gwybod pa faint a wnae unrhyw nifer o geiniogau y dydd mewn blwyddyn, nid oedd eisieu ond amlhau y cyfanswm hwnnw