Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth rif y ceiniogau. Gwnaeth yr ysgolfeistr ddeial gywrain yn ei ardd. Croesawai blant ysgolion eraill at blant ei ysgol. ei hun i'w ardd ganol dydd neu hwyrddydd. Ynghanol y chware fe holai'r plant, pa faint a wnae hyn a hyn o geiniogau y dydd mewn blwyddyn? pan y cawsai ateb ar unwaith gan ei blant ei hun. Holai drachefn, pa sawl gradd sydd mewn cylch, yn y bedwaredd ran o gylch, mewn hanner cylch, mewn triongl ac ymlaen hyd ddeng ongl, ynghyda lliaws o ddirgeledigaethau eraill. Atebai plant ysgol Daniel ei hun ar darawiad, tra byddai'r lleill yn fud gan syndod. Dywed Robyn Ddu i Ddaniel fagu ysgolheigion da yn y dull hwn, tra na ydoedd ond difyrru ei hun, a dilyn ei grefft yr un pryd. A diau fod ganddo rywbeth i'w ddysgu i ysgolfeistriaid a ddaeth ar ei ol. Gwnae'r gwr cywrain, hefyd, "luniau campus" mewn lliwiau ar leni, a cherfiai goed, llysiau neu wahanol anifeiliaid mewn coed a chopr. Yr oedd yn adnabod llysiau a'u gwasanaeth, ac yn arfer eu casglu; a gwnae wydrau i'w dodi mewn ysbienddrychau. Mewn gwth o oedran fe symudodd i Fangor ac oddiyno i Nerpwl. Pan ym Mangor fe wnaeth iddo'i hun y peiriant cywrain a elwir orrery, er arddangos symudiadau'r lloer a symudiadau'r planedau o amgylch yr haul. Dywed Robyn Ddu fod hen ddisgyblion Daniel Pritchard yn rhagori ar y cyffredin mewn lliaws o bethau, ac y bu ef ei hun lawer tro yn ei gymdeithas ac yn derbyn ei addysgiadau hyd ddau neu dri ar y gloch y bore. (Y Nelson, 1895, Tachwedd, t. 7.)

Yn 1817 y sefydlwyd yr ysgol wladol genedlaethol. Dywed P. B. Williams, yn ei lyfr ar sir Gaernarvon (t. 68), mai yn llofft y farchnad gig y cynhelid ysgol y bechgyn ar y cyntaf. Adeiladwyd yr ysgol yn 1820 ar draul o £350, ac o'r swm yma yr oedd £250 wedi eu tanysgrifio i'r amcan, a'r £100 gweddill gan Gymdeithas yr Ysgolion. Yn 1837 adeiladwyd yr ysgol. rad gyntaf yn y dref yn Turkey Shore. Rhodd y llywodraeth, £1,105. Symudwyd oddiyno i le a elwid wedi hynny yn Bonded Warehouse. Yr oedd y lle hwnnw gyferbyn a thalcen y Brunswick Buildings, yr ochr arall i'r grisiau o'r maes i'r cei. Yn 1847 yr adeiladwyd yr ysgol bresennol ar ffordd Llanberis. Teimlai rhai fod dylanwad gwrthwynebol i ymneilltuaeth yn yr ysgol wladol, ac arweiniodd hynny i sefydlu ysgol yn seler Engedi, mewn dwy ystafell eang. Mae llythyr oddiwrth Robert Evans yn y Drysorfa am Hydref, 1843, yn dwyn perthynas â'r