Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgol hon. Sonia ef am ddwy ysgol, sef, mae'n debyg, yn y naill a'r llall o'r stafelloedd hyn. Cynhelid y naill ysgol ar yr hen ddull gyda dau athro, a'r llall ar y dull newydd gydag un athro. Yn y flaenaf yr oedd 250 o blant; yn yr olaf, 133 Rhydd Dafydd Williams, mewn ysgrif ar eglwys Engedi, y rheolau perthynol i'r ysgol a ddarllenwyd gan John Jones Tremadoc ddydd agoriad y capel. Dyma nhwy: "1. Fod y cyfarfod hwn [sef y pwyllgor a gynhaliwyd ar hynny] yn gweled angenrheidrwydd am ysgol ddyddiol i fod dan olygiad y Trefnyddion Calvinaidd yng Nghaernarvon. 2. Fod traul yr ysgol i gael ei gynnal drwy geiniog yr wythnos oddiwrth yr ysgolheigion, a thrwy roddion blynyddol a chasgliadau. 3. Fod rhyddid i blant pawb ddyfod i'r ysgol cyn belled a bo lle, heb eu caethiwo oddiwrth ryddid cydwybod ar y Saboth. 4. Fod holl achosion yr ysgol i gael eu dwyn ymlaen gan eisteddfod o saith o ddirprwywyr wedi eu dewis gan ac o blith y tanysgrifwyr blynyddol, pedwar o'r saith o leiaf yn aelodau eglwysig gyda'r Methodistiaid Calvinaidd. Dewiswyd yn ysgrifenydd— ion, Mri. Robert Evans, grocer; W. P. Williams, druggist: ac yn drysorydd, Mr. Simon Hobley, flour merchant." Yn 1849 fe sefydlwyd ysgol i'r tlodion ym Mhenrallt ogleddol. Agorwyd yr ysgol Frytanaidd Mai 11, 1858. Y draul, £3,750. Dywedir ddarfod i Foriah, yn unig ymhlith eglwysi'r dref yn hynny, gyfrannu £1,200 tuag at yr amcan. Cyfrannodd y llywodraeth yn 1859, £1,680. Trosglwyddwyd yr ysgol i'r Bwrdd Ysgol ar Ebrill 12, 1884; ond bod yr ymddiriedolwyr yn cadw'r hawl i ddefnyddio'r ysgol ar y Suliau ac ar dri diwrnod ym mhob blwyddyn.

Yr oedd Cymdeithas Cymedroldeb yn y dref cyn sefydlu Cymdeithas Dirwest. Sefydlwyd yr olaf yn 1836. Dywed John Wynne fod yr orymdaith ddirwestol gyntaf yn y dref yn cyrraedd o Heol y llyn i Forfa Saint. Yn yr orymdaith honno yr oedd John Elias, Williams o'r Wern, Griffiths Llandrygarn, Môn, Griffith Hughes (Wesleyad); ac yr oeddynt yn areithio ar y Morfa. Yr oedd Richard Williams yr ironmonger wedi mawr hoffi dull Williams o'r Wern y pryd hwnnw yn cyfleu ei ymresymiad gerbron; a dywedai pe gallasai rywun ei argyhoeddi o'i rwymedigaeth i fod yn ddirwestwr mai Williams fuasai hwnnw. Felly yr adroddai prentis yn ei wasanaeth ar ei ol ryw dro. Robert Evans, blaenor y pryd hwnnw ym