dreiglfa arall yn y llaid.'" Gan mai yng Nghaernarvon y bu am weddill ei oes, sef hyd 1838, mae'n ddiau fod y profiad hwn o'i eiddo yn ffrwyth ei sylw o'r achos dirwestol yn y dref yn bennaf. Bu ef ei hun, pa ddelw bynnag, yn ffyddlon i'r achos hyd y diwedd, a diau i'w esiampl fod o fawr gynorthwy i'r achos yn y dref cystal a mannau eraill. Dywed Mrs. Jane Owen (Stryd Garnons) fod William Prichard, a oedd gyda'r Bedyddwyr, yn un o'r dirwestwyr gyda'r blaenaf yn y dref yn y blynyddoedd cyntaf hynny. Yr oedd yn siaradwr anarferol, a phan lefarai yn yr awyr agored fe glywid ei lais yn clecian drwy heolydd y dref. Hugh Jones y teiliwr, hefyd, ebe Mrs. Owen, oedd yn siaradwr cryf, a dywediadau bachog ganddo. Cof ganddi am ei ocheliad rhag y ddiod fain, mai cynffon y cythraul ydoedd,—os ydoedd yn fain ar y blaen, nad oedd hi ddim ond yn arwain at ddiod gryfach, megys ag yr oedd blaen cynffon y cythraul o'i holrhain yn arwain ato ef ei hun! Aelod yn Engedi ydoedd efe, wedi i'r eglwys gael ei sefydlu yno.
Y mae llythyr o eiddo Robert Evans, wedi ei amseru Tachwedd 12, 1847, yn y Drysorfa am 1848, t. 18. Rhed fel yma:
"Bernais yn addas anfon i chwi hanes gweithrediadau Cymdeithas Ddirwestol Caernarvon am y flwyddyn . . . : Ymunodd gyda'r Gymdeithas ynghorff y flwyddyn, 238. Torrodd eu hardystiad unwaith, 8. Torrodd un ei ardystiad ddwywaith. Torrodd un arall ei ardystiad deirgwaith. Tynnodd un ei enw Ymunodd 8 am fisoedd y rhai sydd wedi dyfod i ben. Ymunodd 8 am y flwyddyn sy'n cerdded. Eto un am 2 flynedd. Eto un am 5 mlynedd. Nifer y rhai a ymunodd dan 14 oed, 15. O'r gweddill yma, mae rhai wedi arwyddnodi am byth, eraill am eu hoes, eraill nes y tynnont eu henwau. Hefyd, mae yn eu mysg rai morwyr dieithr nas gwyddom eu hanes yn bresennol. Hawdd fyddai inni hefyd ddweyd faint o holl ymneilltuwyr proffesedig y dref a ymunodd gyda'r Gymdeithas ynghorff y flwyddyn, a pha nifer a dorrodd eu hardystiad; ond nyni a arbedwn. Mae llafur a llwyddiant y Gymdeithas wedi bod yn llawn cymaint y saith mlynedd blaenorol a'r ddiweddaf. Robert Evans, llywydd." Gwelir fod y fyddin ddirwestol yn y dref y pryd hwnnw yn gweithio yn gyffelyb i'r fyddin Ellmynnig ar faes y gwaed heddyw, sef fel peiriant; ac, fel honno, dyma yn ddiau ei nerth a'i gwendid.