Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cynhelid o bryd i bryd gyfarfodydd pwysig. Y mae David Griffith wedi cofnodi hanes cyfarfod mawr y Maine Law yn y castell am 2 a 5 ar y gloch brynhawn Iau, Gorffennaf 16, 1857. Y vicer yn gadeirydd yn y naill gyfarfod, a'r Henadur Harvey Manceinion yn y llall. Y siaradwyr: Canon Jenkins, Samuel Pope, Neal Dow o'r America a'r Parch. John Thomas. Cenid anthemau gan y corau dan arweiniad Humphrey Williams a William Griffiths. Tybir gan D. Griffiths fod oddeutu 15,000 o bobl yn y lle.

Yng nghyfarfodydd dirwestol y dref yn ystod yr 20 mlynedd cyntaf a rhagor fe fu'r canu o fawr wasanaeth. Yr oedd gan William Griffiths a Humphrey Williams gorau pwysig dan eu harweiniad, a datganent y prif anthemau mewn modd ardderchog yn y cyfarfodydd hynny.

Fe gynhelid cyfarfod dirwest yn Engedi ar ol ei agor bob pnawn Sul am hanner awr wedi pedwar, a byddai'r capel yn llawn. Cenid darnau clasurol dan arweiniad Humphrey Williams, tad Mr. John Williams, arweinydd presennol côr y dref.

Gwanychodd dirwest ei nerth yn raddol. Fe barhaodd y cyfarfodydd hanner awr wedi pedwar brynhawn Sul am oddeutu 50 mlynedd. Byddai'r neb a benodid i arholi'r ysgol—yn Engedi o leiaf—yn rhoi araeth ddirwestol ar un Sul o'r mis am oddeutu'r un cyfnod maith. Cynhelid y cyfarfodydd pnawn Sul yn y man yn eu tro yn y gwahanol gapelau Cymreig oddieithr Caersalem. Gyda'r Methodistiaid y ceid y cynhulliadau lluosocaf, ac yn Engedi y lluosocaf i gyd. Ceid pethau rhagorol ar dro, megys araeth y Dr. David Charles, Treveca gynt, yn rhoi hanes ei ymgyrch ddirwestol ef a Henry Rees drwy ran o Gymru ym mlynyddoedd cyntaf y mudiad. Y siaradwyr mwyaf ffyddlon i'r cyfarfodydd hyn oedd John Roberts y paentiwr a Thomas Williams y saer, y naill a'r llall o Engedi. Tueddu i golli ei dymer y byddai John Roberts, a digwyddai hynny yn ddieithriad pan gyfarchai'r ysgol. Dyn da ydoedd ef er hynny. Yr oedd Thomas Williams yn meddu ar ddawn siarad anarferol. Elai ei edrychiad yn llym wrth siarad, a'i lais yn llym, a'i ymadroddion yn llym. Dylifai ei eiriau yn rhwydd a naturiol, a chodai y llais i gywair uchel, a chyffroid ei natur drwyddi, fel y llefarai ar bob pryd gydag ynni a thanbeidrwydd a thrydaniaeth teimlad. Er hynny, ni chollai mo'i hunanfeddiant.