Wrth ddadleu unwaith ymhlaid Temlyddiaeth Dda, mewn cyfarchiad ar y maes, ac wrth sôn am y llywodraeth yn noddi y fasnach mewn diodydd, fe adroddai'r geiriau,—"Yr hwn sy'n preswylio yn y nefoedd a chwardd," gyda thanbeidrwydd anarferol, y fath a'i codai yn deg oddiar ei draed ar y llwyfan; ac yr oedd y pwyslais ar y gair chwardd yn ofnadwy yn ei ddynwarediad o ystyr y gair. Nid dawn i ddweyd pethau tarawiadol oedd gan Thomas Williams, ac nid swyn dull oedd yr eiddo, ac nid unrhyw wybodaeth helaeth am y pwnc; ond o ran y cyfuniad o rwyddineb ymadrodd, gyda chyffyrddiad o'r hyawdl ynddo, a llymder edrychiad a dull ac ymadrodd, ac angerddoldeb teimlad, ynghydag argyhoeddiad meddwl ar ryw ffurf arno, anfynych yn unrhyw gylch y gwelid y cyffelyb. Siaradwyr dawnus oedd Henry Edwards a George Williams o Siloh, a William Davies y rhaffwr o Foriah. Gwyneddon oedd y cyflawnaf ei wybodaeth o'r pwnc, cystal a'i fod yn siaradwr rhwydd a pharod. Trinai agweddau gwleidyddol y pwnc yn ardderchog. Efe oedd golygydd y Temlydd Cymreig. Bu'r Capten G. B. Thomas drwy bob cwrr o Ogledd Cymru yn sefydlu Temlyddiaeth Dda. Teithiodd, hefyd, mewn cysylltiad â'r un achos, drwy wahanol rannau'r deyrnas ac yn yr America, a byddai'n siarad yn ei blaid ymhob man. Er yn ddiffygiol mewn priodddull Gymreig, fe lefarai weithiau gydag angerddoldeb dull. Yr oedd ei gymhariaeth o Demlyddiaeth Dda i'r life—boat yn un o'r pethau goreu a glywid ar y llwyfan dirwestol. Gyda'r gymhariaeth honno fe fyddai'n fynych yn trydanu cynulleidfaoedd mawrion. Mewn blynyddoedd diweddarach, fe ymroes i fyned oddiamgylch i gyfarch cynhulliadau o blant, i'r hyn yr oedd ganddo ddawn gyfaddas.
Yn y dref hon y cychwynnwyd Temlyddiaeth Dda yng Ngogledd Cymru. Sefydlwyd Cyfrinfa Eryri yma yn niwedd 1871. (Temlydd Cymreig, i. 7.) Bu yma oddeutu 600 o aelodau ar un adeg. Dechreuodd yr achos edwino yn gyflym. ymhen rhyw dair blynedd neu lai.
Diffyg mawr ynglyn a'r mudiad dirwestol, nid ar y cyntaf feallai, ond ymhen ysbaid o flynyddoedd, ydoedd treulio llawer o amser i siarad am y drwg, heb wneud nemor yn ymarferol i'w atal, na meddwl rhyw lawer am wneud dim. A phan olygid meddwdod ac yfed fel drygau cymdeithasol, ac y cynygid meddyginiaeth ar eu cyfer, heb ddwyn yr Efengyl i mewn i'r