Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drafodaeth, fel yr arferid gwneud, yna nid oedd digon o ddeunydd dirgelwch yn y pwnc i aros yn barhaus uwch ei ben, ac fe aethpwyd yn naturiol i roi gorbwyslais arno ym mhob agwedd iddo. Fe fuasai cynllunio moddion i atal y drwg wedi bod yn ddylanwad iachus; ac fe fuasai edrych ar y drwg of feddwdod, fel y gwneid å drygau eraill, yng ngoleu trefn gwaredigaeth yr Efengyl, wedi cadw'r siarad rhag rhedeg i eithafion ynfyd. O ddiffyg gwneud hynny, fe aethpwyd i ddysgu yn bendant fod eisieu cael dyn i roi'r yfed heibio cyn y gallesid disgwyl dim lles oddiwrth bregethu'r Efengyl iddo, yr hyn sy'n addysg hollol groes i ystyr trefn gras, ac i brofiad hefyd. Fel hyn y dysgid yn barhaus yn y cyfarfodydd dirwestol. Ac oddiar y gwreiddyn hwn fe darddai lliaws o geinciau penboethni. Dywedid fod yr yfwr cymedrol yn waeth na'r meddwyn, yn gymaint a'i fod yn rhoi esampl a ddilynid gan eraill, pryd na ddilynid mo esampl y meddwyn gan neb. Dywedid fod yfed diod feddwol ynddo'i hun yn bechod. Ymresymid, yn gymaint a bod llawer o ddiod yn meddwi, yna fod. ychydig o ddiod yn meddwi ychydig. Amheuid weithiau a oedd yn bosibl i yfwr cymedrol fod yn ddyn duwiol. Dywedid mai meddwdod ac yfed oedd y pechod mwyaf, a phe ceid y drwg hwn oddiar y ffordd unwaith, yr achubid y byd yn fuan. Dysgid y pethau hyn a'r cyffelyb yn groew, a rhoid pwyslais arbennig arnynt; ac wrth wneuthur hynny fe eid dan sylfaen yr addysg efengylaidd, a eilw ar ddyn, fel pechadur, i ddod yn uniongyrchol at Grist, ac a gyhoedda mai anghrediniaeth yn unig ydyw'r pechod y mae dyn yn gondemniedig o'i herwydd yng ngwydd Duw. Mae'n ddiau fod y Gobeithluoedd yng ngwahanol gapelau y dref wedi bod yn ffrwythlon o addysg ac arferion da, canys yn y rhai hyn fe ddysgid yn fwy am feddwdod fel un agwedd yn unig ar y drwg cymdeithasol, a thraethid am y drwg i ryw fesur ac ar brydiau yng ngoleu trefn yr Efengyl, a chymysgid yr addysg ddirwestol â moes-wersi buddiol eraill.

Y mae Mr. Evan Jones wedi dweyd fwy nag unwaith mai Robyn Ddu oedd yr unig wr o athrylith a gododd yng Nghaernarvon. A bu ar un cyfnod yn ddywediad gan feirdd a llenorion a drigiannent yn y dref am ysbaid, fod Ceridwen, duwies awen, wedi melltithio plant Caernarvon. Tebyg fod arlliw of wirionedd ar hynny, a bod nifer y beirdd o blith hogiau'r dref braidd yn fychan. Fe ddichon, wedi'r cwbl, na bu Caernarvon