Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddim yn ol o'i rhan deg mewn gwyr grymus o blith ei phlant cyn codiad Methodistiaeth cystal ag ar ol hynny, heb son am y lliaws nifer o ddynion clodfawr a fu'n trigiannu yma ar wahanol adegau. Ond a chyfyngu'r sylw i'r brodorion ar ol cyfodiad Methodistiaeth. Fe ystyrrid Richard Roberts, y telynor dall, yn un o brif delynorion ei oes. Yn 1829 fe gyhoeddodd y Cambrian Harmony, casgl o alawon Cymreig. Fe ae Robyn Ddu yn blentyn i Benrallt; bu wedi hynny gyda'r Wesleyaid a'r Anibynwyr yn ol a blaen, a chyda Seintiau y Dyddiau Diweddaf. Yr oedd elfen o ansefydlogrwydd ynddo, a chollodd lawer o'i ddylanwad o'r herwydd. Fe aeth i'r Deheudir yn fuan ar ol ymuno â'r Saint, yr hyn ydoedd oddeutu'r flwyddyn 1856, a dychwelodd oddiyno cyn bo hir; ac erbyn hynny yr oedd wedi eu gadael. Pan ofynnodd rhywun iddo, pa fodd y troes efe mor fuan oddiwrthynt, ei ateb oedd,—" 'Does dim rhaid i ddyn wisgo ambarelo o hyd, na chaiff o'i rhoi hi heibio yn y man!" Dyn rhwydd ydoedd, gyda llawer o natur dda, ac fel carreg lefn yn ysglentio dros y wyneb. Nid oes unrhyw le i ameu na chafodd efe afael o'r diwedd ar egwyddor sefydlog, nac ychwaith ei fod yn ddyn da ym môn ei natur. Ni chwynid ddim am dano yn rhan olaf ei oes. Yr oedd yn ysgrifennydd medrus, yr oedd cyffyrddiadau doniol yn ei farddoniaeth, ac yn ei amser goreu yr oedd yn siaradwr penigamp ar ddirwest, ym marn rhai, yn un o'r pedwar neu bump blaenaf a fu yng Nghymru. Ymwelai â'r dref, ar ol symud ei drigias oddiyma, bob blwyddyn braidd, a siaradai ar y maes fynychaf, am hanner awr wedi pedwar brynhawn Sul. Unwaith, gan gyfeirio ar ddull cynnil at ei gwympiadau ei hun, fe ddywedai y cadwai yr hen Farquis Môn gynt, sef arwr Waterloo, ordderchwragedd, ac y codid ef i'r cymylau fel cadeirydd y Feibl Gymdeithas gan John Elias a Christmas Evans; ond pe digwyddasai i Robyn Ddu yfed llond gwniadur o ddiod fain, yr elai'r sôn am hynny drwy Gymru benbaladr. Ganwyd ef yng Nghowrt y Boot. Yr oedd Dr. Griffith Parry, yn ddiau, yn un o feddylwyr coethaf y Cyfundeb. (Edrycher Moriah). Yr oedd Lewis Jones yn un o sylfaenwyr y wladfa Gymreig ym Mhatagonia, yn llywydd cyntaf yno, ac yn brif ynad. Yr oedd cyn hynny yn un o olygwyr y Pwnsh Cymreig, cystal a'i gyhoeddwr. Enillodd Syr William Preece safle arbennig fel dyfeisydd gwyddonol mewn trydaniaeth. Gallesid enwi amryw yn awr yn fyw wedi hynodi eu