Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hunain mewn gwahanol gylchoedd neu gyrraedd safleoedd arbennig; ond fe enwir ond odid yr hynaf ohonynt wrth enwi'r Parch. Hugh Jones, un o bregethwyr goreu y Cyfundeb Wesleyaidd yng Nghymru yn ei oes. Brodorion y dref ydoedd y cwbl a enwyd.

Yn ymyl y dref, ger y Bontnewydd, y ganwyd y Parch. William Griffith Caergybi, un o saint amlycaf Cymru yn ei amser, ac un o'r ychydig iawn y gellir rhoi'r teitl o sant arnynt o'i ddeall yn ei ystyr uchaf i gyd. Yng nghyfarfod Undeb yr Annibynwyr yng Nghaernarvon yn 1873, a gynhaliwyd am 6 y bore ar un diwrnod yng nghapel Pendref, pan oedd y naill siaradwr dawnus ar ol y llall wedi ymollwng i beth hwyl ysgafn, a pheri nid ychydig chwerthin yn y lle, fe gododd ef ar ei draed, ac â golwg sobr iawn arno, fe estynnodd allan ei fraich grynedig, ac â'r lle wedi distewi drwyddo a difrifoli, fe ddywedodd y geiriau, yn grynedig-ddifrif,—"Yn y fangre hon y cefais i fy ail-eni." Yr oedd effaith y geiriau yn gofiadwy iawn. Eglurodd fod unrhyw ysgafnder—dyna'i air—yn y lle hwnnw yn annioddefol i'w deimlad. Pan oedd Eos Beuno yn cydgerdded âg ef unwaith wrth lan yr afon gerllaw y Bontnewydd, fe gododd William Griffith ei law i fyny, a chan bwyntio gyda'i fys at fan neilltuol ar y ffurfafen, ebe fe,—" Pan yn fachgen un arbymtheg oed, mi welais i oleu yn y fan acw,"—a chan ddodi ei law ar ei fynwes fe chwanegodd,—" ac y mae o yma byth." Er na allesid priodoli athrylith feddyliol i William Griffith, eto fe allesid priodoli iddo athrylith grefyddol. Yn y Bontnewydd y ganwyd y Parch. John Griffith, Bethesda wedi hynny, gwr o feddwl neilltuol o gryf, a chymeradwy gan bawb, a phregethwr goleu, a nerthol ar rai prydiau. (Edrycher Bontnewydd.)

Er na anwyd mo Eryron Gwyllt Walia yn y dref, eto yma y lluniwyd ei natur foesol, yn niwygiad 1818 ym Mhenrallt, a delw'r diwygiad hwnnw, fel y profwyd ef ganddo ef ym Mhenrallt, a arhosodd ar ei athrylith a'i gymeriad. (Edrycher Moriah.)

Nid mor hawdd fuasai cyfleu nodweddiad arbenigol pobl y dref drwy enghreifftiau, yn gymaint a bod y boblogaeth yn llawer llai sefydlog yma nag mewn ardaloedd gwledig. O ardaloedd eraill y buasai'r naill hanner neu ragor o'r cymeriadau neilltuol wedi dod. Ac y mae nifer mawr o'r rhai a fegir yn y dref yn symud oddiyma, ond yn fynych yn cadw delw'r dref ar