Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu calon. Eithr y mae rhyw haen amlwg o gymeriad trefol yn perthyn i'r lle: y mae rhai enghreifftiau eisoes wedi eu cyfleu gerbron, ac fe gyflei'r rhagor yn hanes yr eglwysi. Dichon y gallesid nodi Robyn Ddu fel yn crynhoi ynddo'i hun nodwedd- ion mwyaf neilltuol y bobl ar un wedd, ac Eryron Gwyllt Walia ar wedd arall; er, ar yr un pryd, fod y nodweddion a grynhoid yn y naill a'r llall ohonynt hwy yn graddol ddiflannu. Fe welir y nodwedd drefol ar liaws heb fod yn frodorion, ond wedi dod yma yn eu hieuenctid.

Llanbeblig ydyw eglwys y plwyf, a chapelau dibynnol arni hi yw'r lleill. Y mae'r adeilad ychydig gannoedd o lathenni i'r ochr ogledd-ddwyreiniol oddiwrth safle'r hen gaerau. Y mae wedi ei chysegru i Beblig, mab Macsen Wledig. Yr Elen y mae ei henw o hyd yn glynu wrth y gymdogaeth, megys yn Ffynnon Elen, ydoedd gwraig Macsen, a mam Peblig. Nid ydoedd yr un a mam Cystenyn Fawr, a chamgymeriad yw cyfleu ei henw yn Coed Alun. Y mae rhan o'r adeilad presennol yn hynafol iawn, ond nid yw'r rhan honno, debygir, ond wedi ei chodi ar sylfaen flaenorol. Tebygir mai Caer Sallwg oedd hynny o dref oedd ynghylch yr eglwys, ac felly yn ymyl olion yr hen Gaer Saint blaenorol. Adeiladwyd yr eglwys yn ei ffurf bresennol, fel y tybir, oddeutu dechreu'r 15fed ganrif. Mynn rhai fod y sylfaen gyntaf gyn hyned a Pheblig ei hun, sef o'r 5ed ganrif. Yr oedd gwerth y fywoliaeth yn £350. oddeutu 1880. Y mae traddodiad fod capel dibynnol ar Lanbeblig yn sefyll unwaith yn ymyl Ffynnon Elen, ond ni wyddys mo'i gyfnod. Eglwys Fair sydd ynglyn wrth dwr ar y mur ar y cei, sef eglwys y dref newydd. Ail-adeiladwyd mewn rhan yn 1812. Cynhelir gwasanaeth Byddin yr Eglwys yma yn awr. Cychwynnwyd Byddin yr Eglwys yn 1900 dan arolygiaeth Capten Griffiths. Eglwysi diweddar yw eglwys Crist a'r eglwys wrth y Twtil.

Llanfaglan sydd eglwys hynafol, yn agos i ddwy filltir o ganol y dref i'r dde-orllewin. Y mae cerrig Rhufeinig wedi eu gweithio i mewn i'r adeilad. Ceir cyfeiriadau at yr eglwys. yn y 14 ganrif. Codwyd eglwys ddiweddar yn ei lle yn nes i'r Bontnewydd. Baglan ydyw'r nawddsant. Ae eglwyswyr y Bont naill ai i'r eglwys hon neu ynte i eglwys Llanwnda. Dengys dyddlyfr D. Griffiths fod ysgol Sul eglwysig yn cael ei chynnal yn ysgol genedlaethol y pentref er 1858.