Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Erys coffadwriaeth Thomas Thomas, a benodwyd i viceriaeth Llanbeblig yn 1837, yn fyw a pharchedig o hyd. Yr oedd yn wr o ysbryd efengylaidd, yn bregethwr o ddylanwad, yn dwyn mawr sel dros y Feibl Gymdeithas.

Yn 1862 y penodwyd ei olynydd ef, J. C. Vincent. Daeth ef o dan ddylanwad mudiad uchel-eglwysig Rhydychen. Yn y colera a fu yn y dref yn 1866 fe ragorodd ar weinidogion eraill y dref yn ei ymroddiad i'r cleifion, a mawr ydoedd ei glod ar y pryd o'r herwydd. Bu farw yn ddyn cymharol ieuanc, ac fe ddywedid ar y pryd ei fod ar ei farw-ysgafn, mewn llawn feddiant ar ei synwyrau, yn gofyn i'r rhai o'i amgylch, onid oeddynt hwy yn gweled yr angylion yn yr ystafell? Yr oedd yn ddyn. tal, syth, cymesur, boneddig yr olwg arno, a chydag urddas llym yn argraffedig ar ei wedd.

Ei olynydd ef yn 1869 oedd H. T. Edwards, y Deon wedi hynny. Uchel-eglwyswr y cyfrifai yntau ei hun. Yr oedd rhywbeth yn ei ddylanwad ef yn gyferbyniol i'r ddau arall. Gydag ef fe ddeffrowyd y teimlad o wrthdarawiad rhwng eglwys a chapel. O'r blaen, y vicer fyddai'r cadeirydd yng nghyfarfod y Feibl Gymdeithas; ymhen rhyw gymaint ar ol iddo ef ddod yma, fe newidiwyd hynny, a pheidiodd yntau mwyach a dilyn y cyfarfodydd. Yr oedd rhywbeth yn ei ddull o siarad yn gyhoeddus y pryd hwnnw yn awgrymu'r ymladdwr. Wrth wneud rhyw bwynt neilltuol fe giliai gam yn ol ar y llwyfan, a rhoddai'r ergyd ymresymiadol neu reithegol gyda rhuthr, fel y deuai gam ymlaen drachefn; ac yr oedd rhyw ru cyffrous yn ei lais. Yr oedd yn anhawdd peidio â meddwl nad oedd gan bresenoldeb ymneilltuwyr yn y cyfarfod rywbeth i'w wneud â'r dirfawr gynnwrf. Fe godai ias o arswyd braidd yn y meddwl ieuanc wrth wrando. Yr oedd hynny cyn dyddiau'r ddadl ar ddatgysylltiad. Os gellir dibynnu ar adroddiadau, yr oedd elfen yr ymladdwr yn gryf ynddo er yn ieuanc, yn tywynnu allan yn amlwg drwy'r menyg paffio. Yr un pryd, yr oedd y cynnwrf hwnnw yn arwydd o ddiffyg hunanfeddiant cyflawn a mantoliad cydbwys. Bu mewn dadl drwy gyfrwng y Goleuad â Thomas Charles Edwards, a sylw'r gwr hwnnw arno, cyn bo hir iawn ar ol y ddadl, ydoedd, mai dyna'r fath ydoedd, pan y tybiai y gwelai rywbeth y rhuthrai arno fel tarw. Yn ei araeth deirawr fawr ar ddatgysylltiad yng Nghaernarvon, yng nghyfnod y ddadl gyhoeddus yma, fe wnaeth ymosodiad enbyd ar