Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymneilltuaeth. Mewn cyfarfod cyhoeddus yn ddilynol i hynny, fe ddywedodd Henry Jonathan, mewn cyfeiriad at yr araeth honno, fod y Deon wedi dweyd i'r gwrthwyneb ar bob pwynt yn yr araeth, lle'r ymosodid ar ymneilltuaeth, wrtho ef ei hun yn gyfrinachol. A gwr i ddibynnu arno oedd Henry Jonathan. Eithr dyna'i ddull ef: yng nghyfrinach ymneilltuwr fe gydnabyddai bethau andwyol braidd i'w ochr ei hun, a gwnae hynny mewn dull agored, siriol, brawdol, y fath a dynnai serch y sawl a gawsent y fraint o'i gymdeithas ato'i hun. Yn y ddadl gyhoeddus ac yn ei lyfrau, fe ddanghosai, yn ei gyfeiriadau at ymneilltuaeth ac ymneilltuwyr, ysbryd eithafol chwerw. Mae pob lle i gasglu ei fod yn gwbl ddiragrith yn y naill gysylltiad cystal a'r llall. Fe berthynai iddo liaws o ragoriaethau amlwg fel dyn, fel pregethwr, fel gwladwr, cystal a rhyw ddawn reithegol anarferol fel ysgrifennydd, yn enwedig yn y Saesneg.

Ei olynydd ef oedd y Dr. Daniel Evans yn 1876. Clywodd pawb am ddadl Corris, rhyngddo ef a Mr. Evan Jones, ac yn ol pob hanes yr oedd yn ddadleuwr medrus, cyflawn o wybodaeth, ac â dawn ganddo i gornelu'r gwrthwynebwr.

Dywedir ddarfod i Daniel Phillips Pwllheli, yn fuan ar ol pasio deddf goddefiad yn 1689, gofrestru tŷ yma i bregethu, ac iddo ddod yma i bregethu hyd y gallai hyd derfyn ei oes yn 1722. Cynhelid yr achos ymlaen oreu ellid, gyda neu heb bregethu, ac yna rhowd terfyn arno am amser maith. Trwyddedwyd tŷ yma i bregethu gan Rees Harries, gweinidog Pwllheli; ac ar ol hynny trwyddedwyd tŷ ym Mhenrallt gan Abraham Tibbot, Chwefror 28, 1780. Bernir mai tŷ yng ngwaelod Penrallt ydoedd gyferbyn â Sein Delyn. Y gweinidog sefydlog cyntaf oedd John Griffith, 1782-4; yna (Dr.) George Lewis, 1785-94. Cyn i John Griffith fyned oddiyma, yr oedd yr eglwys yn ymgynnull mewn llofft yn Nhreffynnon, ar y ffordd i Lanberis. Yn 1791 adeiladwyd Pendref. Dychwelodd John Griffith yma yn 1796, ac arhosodd hyd derfyn ei oes yn 1818. Yr oedd Caledfryn yma yn ystod 1832-48. Adeiladwyd capel newydd yn 1839. Yn fuan wedi hynny adeiladwyd Joppa yn Stryd Snowdon. Adeiladwyd Salem yn 1862, ac yna rhowd terfyn ar yr achos yn Joppa. Bu David Roberts ym. Mhendref yn ystod 1850-71. Daeth Evan (Herber) Evans i Salem yn 1865. Dywedir yn Hanes yr Eglwysi Anibynnol (t. 248) mai oddeutu 1820 y dechreuwyd pregethu yn y Bontnewydd