bach cefn ydoedd y rheiny, lle'r ymgyfarfyddai'r siopwyr â'i gilydd, a dyddiau'r dondio a'r dadleu uwchben y potiau yn y tafarnau; a rhwng popeth nid oedd nemor seibiant o unrhyw hyd oddiwrth yr helyntion a barai Caledfryn. Yr oedd Caledfryn ei hun yn wrthwynebydd mor bybyr, fel y deffroai bybyrwch yn ei wrthwynebwyr yntau. Yr oedd adsain y clwcian a'r clochdar i'w glywed ymhen ugain mlynedd wedi iddo ef ymadael â'r dref. Ond y naill ochr i Galedfryn yn unig a welir yma. Yr oedd yn wr urddasol ei ymddanghosiad a'i ddull yn y cyhoedd. Bernid ef gan rai yr areithiwr ar bynciau cyffredin goreu yng Nghymru; ac yr oedd yn bregethwr poblogaidd a dylanwadol, cystal ag yn fardd a beirniad a llenor o fri yn ei amser.
Yn yr eithaf arall oddiwrth Caledfryn yr oedd (y Dr.) David Roberts. Tynnai ef y llaw yn esmwyth dros y gwallt. Gwr tawel, siriol, caruaidd, caredig, oedd ef; a phregethwr mwyn mwyn. Yr oedd ganddo ryw ddawn ddisgrifiadol mor amlwg ag eiddo neb yng Nghymru o fewn ei gylch ei hun; a chwareuai ar dannau'r delyn nes swyno pob clust.
Rhyw ymarllwysiad oedd Herber Evans. Bob tro y codai i siarad, pe na bae ond i gynnyg neu eilio diolchgarwch, deuai fel sioch am ben dyn. Goreu po hwyaf y byddai wedi aros heb siarad; yna, pan ddeuai ei dro, byddai ei holl agwedd megis yn dweyd yng ngeiriau Elihu,-"Minnau a atebaf fy rhan minnau a ddanghosaf fy meddwl. Canys yr ydwyf yn llawn geiriau: y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymell i. Wele, fy mol sydd fel gwin nid agorid arno: y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion. Dywedaf, fel y caffwyf fy anadl: agoraf fy ngwefusau ac atebaf." Rai troion, ar ol codi ohono ar ei draed, a chyn iddo ddweyd gair o'i enau, fe welid yr holl gynulleidfa yn siglo gan chwerthin, megys pe na bae hi ond rhyw un bod, wrth weled ohoni ar ei wedd fod yr argae ar godi, a chan wybod fod rhuthr gwreichionllyd o hyawdledd yn ei hwynebu. Fe welwyd rhyw funud cyfan o hynny yn troi yn ei erbyn, gan ei wneud yn ymwybodol ohono'i hun. Weithiau fe newidiai tôn cyfarfod yn hollol ac ar unwaith ar ei waith ef yn codi ar ei draed, megys, ar un tro, pan oedd Ieuan Gwyllt wedi bod yn siarad ar hawliau addysg, mewn cysylltiad feallai â'r bwriad i sefydlu coleg yn Aberystwyth; ac wedi i'r cyfarfod fod yn un o'r rhai mwyaf hwyrdrwm, dyna yntau gerbron, a'r lle yn fyw