drwyddo, a'r bobl oedd ddau funud neu dri yn ol mor drwm— bluog yr olwg arnynt, bellach yn clecian eu hadenydd megys, ac yn ysgrechian ac yn bonllefain eu cymeradwyaeth fel mewn rhyw rialti pen blwydd tywysog. Nid oedd ryfedd fod Ieuan Gwyllt ei hun, wr synfyfyrgar, o'r tucefn ar y llwyfan, yn amlygu ei syndod y fath, nes yr oedd gwyn y llygaid fel dau ddarn arian o dan yr aeliau trymion, tywyllion. Y digrifol geid yn teyrnasu yn gyffredin yn y cyfarchiadau hyn; ond yn ei fannau dedwyddaf i gyd fe geid dagrau yn gymysg â chwerthin, fel heulwen bob yn ail â gwlaw. Ambell dro, fel clo i'r araeth, fe geid rhyw ddisgrifiad ysgafn—farddonol fel bwa disglair amryw liwiau yn tywynnu i'r golwg dros y fan oedd funud yn ol yn cawodi hyfryd ddagrau, a lle'r oedd y lleithder eto heb ei sychu ymaith oddiar wyneb y ffurfafen. Mantais iddo ef oedd y cyfarchiad byrr. Er y cawsai ef wrandawiad effro dan bob pregeth, eto ni byddai'r bregeth ganddo fel rhyw ddiferyn o arian byw nad gwiw cyffwrdd ag ef. Yr oedd y cyfarchiad felly: yn rhyw un diferyn, neu ynteu'n lliaws o ddiferynau crynion, byw; ond gallasai'r bregeth beidio â bod yn hyn na'r llall; ac ar y goreu ni byddai fyth yn ddrych byw perffeithgwbl, yn ymrannu neu'n ymgau yng nghrebwyll dyn fel rhyw ddiferyn o ryfeddod a drych o gyfiawnder tragwyddol. Fel y dywedodd Robert Jones Llanllyfni am dano unwaith, ar ol ei wrando yn ei fan goreu,—" 'Dydio ddim yn rhoi pregeth i chwi; ond yr ydych yn cael rhywbeth cynddeiriog o dda ganddo yn lle pregeth."
Mae hanes am fedydd yn afon Saint yn 1789. Ffurfiwyd eglwys gan y Bedyddwyr yn 1799. Y man cyfarfod ar y cyntaf oedd yn Nhreffynnon, wedi hynny mewn tŷ ym Mhenrallt Ddeheuol hyd 1826, pryd yr adeiladwyd Caersalem. Helaethwyd yn 1855. (Hanes y Bedyddwyr iii. 358). Yr oedd y Bedyddwyr Sandemanaidd yma yn 1835, ac am gyfnod oddeutu hynny; ond ni bu eu nifer ond bychan.
Yma y treuliodd Christmas Evans y chwe blynedd diweddaf o'i oes, sef ystod 1832—8. Pan ddaeth efe i Gaernarvon yr oedd dyled o £800 ar y capel a dim ond 30 o aelodau, a rhai ohonynt o dan ddylanwad cyfundrefn J. R. Jones Ramoth. Yr oedd ymrysonfeydd a rhwygiadau wedi bod yn yr eglwys, fel yr oedd nifer o'r gwrandawyr wedi eu tarfu ac wedi ymadael i leoedd eraill. (Y Gwyddoniadur, d.g. C. E.) Ond er fod