sefyllfa'r eglwys wedi cyfyngu ar ei ddylanwad yn y dref, eto bu iddo ddylanwad gwirioneddol ac arhosol. Byddai Iliaws yn myned i wrando arno o fannau eraill, a delid ef mewn parchedigaeth mawr gan bob dosbarth ac enw yn y dref. Yr oedd rywbeth cwbl arbennig ynddo ef o ran nodwedd ei athrylith a'i gymeriad. Yr ydoedd yn wr chwe troedfedd o daldra, ac yn gorffol; heb fod yn gymesur ei ffurf, a rhywbeth afrosgo yn ei symudiadau. Meddai ar ben anarferol o fawr, gyda thalcen eang, aeliau bwaog, ac wedi colli un llygad. Ymgrynhoai y genau ac ymdynhäent, megys gan chwareugarwch a direidi dychmygol, ar yr un pryd ag yr arhosai'r llygad yn llonydd, gyda gwawr oleu ynddo, ond dan gyffroad teimlad yn llewyrchu ac yn ffaglu. Gwir arwyddlun y meddwl ydoedd ei ymddanghosiad allanol. Nid oedd o feddwl cymesur, ac yr oedd yn hytrach yn ddiffygiol mewn ysbryd barn a choethder chwaeth. Nid oedd grym ei ddeall yn gyfartal â bywiogrwydd ei athrylith. Eithr yn yr hyn a elwir yn briodol yn athrylith, fe ddichon ei fod tuhwnt i bob pregethwr a fu yng Nghymru. Ni wyddys a fyddai athrylith Elis Wyn yn llewyrchu allan yn ei bregethau; ond a barnu oddiwrth y Bardd Cwsc, efe ydoedd athrylith-efaill Christmas Evans. Mae'n hawdd gweled fod Elis Wyn wedi gadael ei ol ar Christmas Evans o ran cynllun dychmygol ac o ran iaith. Mae'r ragoriaeth gydag Elis Wyn o ran gafael meddwl, cysondeb syniad, crynhoder awchlym, iaith ddiwylliedig; ond y mae Christmas Evans yn ei fannau uchaf yn dangos mwy o hyawdledd iaith a syniad, ac yn fynych athrylith fwy amrywiol. Y mae'r meddwl yn ymagor allan yn llawnach ganddo, ac y mae ynddo fwy o dynerwch ac o asbri ysgafn, chwareus, goleulawn. Rhaid peidio â'i farnu oddiwrth ei ysgrifeniadau ei hun, oddieithr mewn mannau, yn gymaint ag oddiwrth atgofion eraill o'i ddisgrifiadau hyotlaf, neu ei ddywediadau disgleiriaf. Mae'n debyg nad oedd y fath fywiogrwydd ynddo ar hyd ei araeth ag yn Herber Evans; ond tra'r oedd hyawdledd Herber Evans yn gyfyngedig i'w ddull, yr oedd Christmas Evans yn hyawdl o ran dull ac iaith a drychfeddwl. Ac er fod Herber Evans yn chware ar amrywiol dannau'r delyn, eto yr oedd Christmas Evans yn ddwysach, yn fwy cyffrous ac aruthr, yn agor golygfeydd mwy rhamantus o flaen y meddwl. yn deffro mwy ar y teimlad o'r dieithr, y rhyfeddol, y cywrain, y cyfriniol. Y mae wedi ei ddweyd lawer
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/60
Gwedd