gwaith fod gradd helaeth o debygrwydd rhyngddo a Bunyan; ac y mae'n amlwg ei fod ef wedi dysgu llawer oddiwrtho. Y mae Bunyan yn rhagori mewn symledd a chysondeb. Nis gallasai Christmas Evans ledu allan y fath olygfeydd eang, cyson, pell—gyrhaeddol ag a geir gan Bunyan; ond yr oedd efe'n wylltach, yn llawnach o asbri plentyn, ac yn dygyfor yn fwy gan hyawdledd angerddol.
Yma y treuliodd Cynddelw y rhan olaf o'i oes, sef ystod 1862—75. Ni ddarfu iddo ef gymysgu rhyw lawer â'r bywyd trefol; ni chlywid mono ond yn achlysurol ar y llwyfan cyhoeddus. Yr efrydydd enciliedig ydoedd i fesur mawr, mor bell ag yr oedd bywyd y dref yn y cwestiwn. Yr oedd yn ei ddull yn wr agored, rhydd, yn ei inverness fawr, a chyda'i wyneb rhadlon a'i farf hirllaes. Rhadlonrwydd tawel oedd ei nôd arbennig. Dyn trwyadl dda ydoedd ef, er nad oedd dwyster crefyddol yn ymddangos yn ei nodweddu. Yr oedd teimlad crefyddol amlwg yn y dref yn amser ymweliad cyntaf Moody â'r wlad hon. Cynhelid cyfarfodydd gweddi undebol yn y gwahanol gapelau. Deuai Cynddelw i'r cyfarfod yn ei gapel ei hun. Ar un tro, yr oedd Herber Evans yno yn siarad mewn teimlad toddedig. Soniai am eneth o forwyn o'r Alban, wedi dod o ganol y mynyddoedd i wasanaeth yn rhywle ar wastatir Lloegr. Hiraethai'r eneth am wlad y bryniau,—" Oh, for a wee bit of a hill!" Dyna ei deimlad yntau ynghanol gwastad crefyddol y blynyddoedd hynny: "Oh, for a wee bit of a hill! Wrth godi ar ei ol, fe gydnabyddai Cynddelw ei anallu i ymdaflu i deimlad; ac amlwg mai ei feddwl oedd nad allai efe ddim. cynyrchu teimlad yn y dull y gwnae y llefarwr o'i flaen. Cyfansoddodd amryw lyfrau buddiol, ac yr oedd ganddo arddull ddoniol mewn rhyddiaeth, cystal a'i fod yn fardd o gryn fri. Yr oedd ei bresenoldeb yn y dref yn cynnal y traddodiad llen— yddol ynddi. Fel darlithydd cyhoeddus fe'i ceid yn ddawnus a dysgedig, ac fel pregethwr yr oedd ar unwaith yn hwylus a llafurfawr. Tebyg, er hynny, mai ei brif gynneddf ydoedd arabedd, ac y mae lliaws o'i ddywediadau ar goedd gwlad. Ystyrrid ef gan Kilsby Jones yn un o'r tri humourist mwyaf yng Nghymru yn ei amser ef. Fel y dywedai Wyndham Lewis am dano, wrth ddefnyddio un o'i eglurebau mewn cyfarfod dirwest yng Nghaernarvon,—"A gwr o athrylith fyw oedd ein Cynddelw ni."