Tybir fod y bregeth gyntaf a rowd gan y Wesleyaid yn y dref wedi ei thraddodi yng nghapel Penrallt gan Owen Davies, Medi 15, 1800 (Hanes Wesleyaeth Gymreig, t. 44). Agorwyd capel ganddynt yn 1805, ac ail-adeiladwyd yn 1826. Ymsefydlodd Samuel Davies yma yn 1807. Danghosodd ef blaid i Robyn Ddu yn ddiweddarach o rai blynyddoedd, pan yr erlidid ef gan eraill. Rhaid gan hynny iddo fod yma yr ail waith. Yr oedd ef yn ddadleuydd pwysig yn y dyddiau hynny yn erbyn y Calviniaid. Danghosodd Robyn Ddu ei serch tuag ato drwy ei restru gyda John Elias, Christmas Evans a Williams mewn cân goffadwriaethol:
D'ai Samuel Davies mewn llonder yn llawn
I selog amlygu helaethrwydd yr Iawn.
Yr oedd R. M. Preece yn ei ddydd yn ddyn pwysig yn y dref a'r cylch. Mab iddo ef ydoedd Syr William Preece. Wrth ei alwedigaeth yn oruchwyliwr yr Hen fanc, ac yn bregethwr lleol. O ran ei ddull yn gyhoeddus, yn foneddig, gyda chyffyrddiad go amlwg o'r mawreddog. Y syniad ydoedd fod pregethwyr ieuanc y cyfundeb yn y cylch yn ei ddynwared, a rhoddai hynny iddynt, ym marn y Methodistiaid, agwedd orchestol. Un o straeon clasurol y pulpud sydd yn ei gylch ef. Gofynnodd Preece i Sian y bryn, yng nghlyw Robyn Ddu, ac yntau'n hogyn y pryd hwnnw, onid oedd hi'n teimlo'n oer iawn, a hithau'n droednoeth fel ag yr ydoedd, ar ddiwrnod o eirwlaw fel hwnnw? Atebodd Sian ei bod yn teimlo'n oer iawn. Yna, ar yr amod na waeddai hi ddim dan ei bregeth ef drannoeth, addawodd Preece bâr o esgidiau iddi. Yr oedd Robyn yn eistedd wrth ymyl Sian fore Sul, a Preece yn pregethu yn wresog. Dechreuodd Sian anesmwytho, ac yn y man diosgodd yr esgidiau, cododd ar ei thraed a thaflodd hwy ymaith, a gwaeddodd allan,-" Yr esgidiau i Preece, a Christ i minnau."
Bu Thomas Aubrey yma am flwyddyn yn unig, sef 1843. Yr oedd disgwyliadau mawrion wrtho, a braidd na thybid gan rai nad enillai efe'r dref i gyd o fewn terfynau ei enwad. Byddai lliaws o blith yr enwadau eraill a aent i wrando arno yn cwyno ei fod yn defnyddio geiriau annealladwy iddynt, sef geiriau hirion gyda therfyniadau anghynefin. Fe ddywedai Caledfryn, fel yr adroddid, ei fod ef yn arfer geiriau heb fod yn yr iaith o gwbl. Gwnaeth yma, fel mewn mannau eraill, ar-