graff o ddoniau areithyddol annhraethol, a glynodd y geiriau, Aubrey fawr ei ddawn" wrth ei goffadwriaeth yn y lle.
Bu John Bryan yn trigiannu yma fel masnachwr yn rhan olaf ei oes, sef hyd 1856, wedi bod ar un cyfnod yn weinidog, ac yn parhau i bregethu, ac yn wr amlwg a chyhoeddus yn y dref a'r cylchoedd. Cymerodd ran yn y dadleuon diwinyddol, a chan ei ffraethder tafodlym yr oedd son am dano drwy'r wlad. Fe gynyrchai ei ddull mewn rhai cylchoedd gryn ddigrifwch ac ysgafnder. Yn y watchnight fe ymguddiai o'r golwg yn y pulpud dwfn hyd ar ol i'r gloch orffen taro hanner nos, ac yna fe roe lam i'r golwg, gan estyn ei freichiau allan, a chyhoeddi'r dymuniad am Flwyddyn newydd dda. Gwr llon ydoedd, o dymer ysgafn, chwareus. Yr oedd ar un tro yn croesi drosodd o'r Iwerddon mewn agerlong gyda Simon Hobley, pryd y cododd yn dymestl fawr, ac yr oeddid yn ofni am ddiogelwch y llong a bywyd y teithwyr. Wedi i'r dymestl fyned drosodd, mynegai Simon Hobley ei syndod wrtho ei fod ef yn gallu aros yn y caban yr holl amser ynghanol perygl mor fawr. "O," ebe yntau, "gyda Hobley yn gweddio ar y dec a Bryan yn canu yn y caban, 'doedd yna berygl yn y byd am y llong!" Byddai ei enw am flynyddoedd lawer wedi ei farw yn cynyrchu sirioldeb ym mhob cwmni, megys ag y bu ei enw am flynyddoedd ar un cyfnod yn ei oes yn codi lledrithiau a bwganod dadleuaeth ddiwinyddol.
Yma, hefyd, y treuliodd Richard Bonner y rhan olaf o'i oes, sef ystod 1854-67, a bu yma fel gweinidog y gylchdaith. Yr oedd ef yn wr urddasol yr olwg arno, dros ddwy lath o daldra, ac yn gymesur, gyda wyneb hir, talcen eang, aeliau trymion. blewog, a'r holl olwg arno yn foneddigaidd ac yn gofiadwy o darawiadol. Nid hawdd oedd ei anghofio ar ol unwaith ei weled. Er fod golwg ddifrif, lem arno, eto dull mwyn oedd ganddo gyda rhyw fechgynnos y digwyddai daro arnynt wrth ei dŷ. Fe arferai ddweyd iddo gael ei ddysgu gyda'r Methodistiaid a'i achub gyda'r Wesleyaid. Fel gwr o arabedd yr adwaenid ef oreu. Yr ydoedd yr un pryd yn meddu ar amgyffrediad eang a dychymyg chwareus, ac fe geid ei bregethau yn gyfansoddiadau destlus. Traddodai yn rhwydd a thawel, ac yr oedd swyn yn ei ddull, weithiau yn codi gwen ac weithiau ddeigryn. Troai o'r naill i'r llall yn annisgwyliadwy. Ar y llwyfan yr oedd ei arbenigrwydd mwyaf. Byddai ganddo ryw