Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eglurhad neu hanesyn neu ddywediad arab yn hoelio'r glust yn barhaus. Yr oedd mwy o awch ar y pethau oblegid ei edrych- iad syn a difrif.

Yr oedd Cynfaen yma yn ymyl diwedd ei oes. Yr oedd ef yn wr o ddiwylliant eang ac o arddull flodeuog. Yn ei bregethau, ar brydiau o leiaf, yr oedd yn gymharol syml. Fe adroddir i Hiraethog ddweyd am ei erthygl yn y Geninen ar Chwaeth a Beirniadaeth, nad oedd neb arall yng Nghymru a allasai fod wedi ei chyfansoddi. Y mae byrdra arhosiad gweinidogion yr enwad yma, sef fel gweinidogion y gylchdaith, yn rhwystr iddynt wneud argraff neilltuol ar y dref fel y cyfryw.

Pregethwr lleol oedd John Morris Stryd y llyn. Dyn o dan y taldra cyffredin ryw gymaint, ond yn llawn o gorff; a chyda gwedd siriol, dawel, hunanfeddiannol, fel dyn mewn heddwch â'i gydwybod, ac heb fod yn agored i fraw disymwth. Enillodd barch pawb a'i hadwaenai. Fe ddywedir ei fod yn bregethwr melys, adeiladol, ac y byddai nid yn anfynych yn effeithiol anarferol.

Fe grybwyllwyd ynglyn â Robyn Ddu fod Saint y Dyddiau Diweddaf yma yn 1856, ac am rai blynyddoedd cyn hynny, fe debygir, cystal a blynyddoedd lawer ar ol; ond nid oeddynt ond nifer bychan iawn. Arferent gynnal cyfarfodydd cyhoeddus o flaen yr efail lle saif y post yn awr, a chawsant eu herlid yno aml waith, a hynny rai troion gan broffeswyr crefydd. Adroddir ddarfod eu hymlid unwaith ar hyd y maes i lawr allt y cei, ac yn offis yr harbwr y cawsont loches. Fe arferai Robyn Ddu gyfarch y dorf yn rhan y Seintiau oddiar risiau o flaen tŷ lle saif banc y North and South yn awr. Pres- wylid y tŷ y pryd hwnnw gan Abraham, mab i Evan Richardson; ac yn y tŷ hwnnw y preswyliai Evan Richardson cyn hynny. (Y Nelson', 1895, Awst, t. 15.)

Cychwynnodd y Pabyddion yma ers oddeutu 45 mlynedd yn ol. Y Tad Jones, wyr Dafydd Cadwaladr, oedd yr offeiriad cyntaf. Dyn bychan, eiddil, cloff ydoedd ef, ond gyda wyneb tyner, benywaidd, difrif. Llais gwan, gwichlyd oedd ganddo, ac ni feddai ar ddawn o gwbl. Cymerid ef yn ysgafn braidd pan ddaeth gyntaf i'r dref, a gwaeddid ar ei ol gan ryw fechgynnos difeddwl. Ni chymerai yntau arno ddim, ond gwnae ei waith yn dawel, yn ffyddlon, yn ymroddgar, megys i Dduw; ac yn y man, er nad yn fuan iawn, fe ddarfu'r gwrthwynebiad a'r