Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diystyrrwch, a daeth y Tad Jones yn uwch uwch ym meddwl pawb, fel y coleddid tuag ato flynyddoedd cyn symud ohono o'r dref deimlad o barchedigaeth cyffredinol. Y mae capel y Pabyddion gerllaw'r Twtil.

Cychwynnodd Byddin Iachawdwriaeth yma yn 1887. Fe gynhaliasant eu cyfarfodydd am flynyddoedd yn Turf Square, yn yr ystafell y cychwynnodd yr eglwys Saesneg ynddi. Mawr y cynnwrf ar y cychwyn. Bu rhif yr aelodau yn 700. Glynodd. nifer. Y mae'r Fyddin yn y dref wedi dangos ysbryd ymroddgar ac wedi gwneuthur lles diamheuol.

Eglwys Rydd y Cymru oedd yr enwad diweddaf a gychwynnodd yma. Ni bu'r enwad yn lluosog. Darfu i Mr. R. O. Roberts gopio y ffigyrau isod o'r Llyfr Glas am 1846, debygir: "Ysgolion Sul, Rhag., 1846. Ysgol wladol Caernarvon. Ar y llyfrau, 300; yn bresennol, 299. Moriah, 384, 358. Engedi, 355, 325. Wesleyad, 225, 158. Bedyddwyr, 69. Tanrallt, 25." Joppa, 70, 43. Stryd Bangor [Pendref], 240, 215. Turkey Shore [Glanymor], 66. Gan fod enwadau eraill â'u rhan yng ngwaith yr ysgol yn y Workhouse, fe gyfleir yma adroddiad yr ymwelwyr Methodistaidd am eu hymweliad â'r ysgol yn 1885, sef canmlwyddiant yr ysgol Sul yng Nghymru: "Prynhawn Saboth, Hydref 11. Ni buom mewn ysgol erioed a osododd argraff mwy dymunol ar ein meddwl. Dechreuwyd am 2 i'r funud, pryd yr oedd pawb yn bresennol—golygfa hardd iawn. Atebwyd ni fod rhoi gwobrwyon wedi bod yn foddion i gynyddu'r llafur; fod y plant yn ateb o'r Rhodd Mam yn niwedd yr ysgol; yr amcenir gwneud yr ysgol yn foddion gras; yr addysgir ac y rhybuddir y plant ymherthynas i ddrygau ac anfoesoldeb; y cynrychiolir yr Ysgol yn y Cyfarfod Ysgolion; y cerir adref y cenadwriaethau oddiyno; fod angen am chwaneg o gymorth i gario'r gwaith ymlaen. Mae braidd bawb a ddaw yma o'r tuallan yn dod er mwyn y plant, ac y mae eu llafur yn ateb diben rhagorol. Y mae'n sicr fod yr agwedd ddymunol, astud a distaw sydd ar y plant hyn i'w briodoli i fesur helaeth i'r ddisgyblaeth y maent dani ynghorff yr wythnos. Mae'r rhai o 8 i 12 yn darllen yn dda. Ymdrech neilltuol yn rhai o'r dosbarthiadau mewn dod i ddeall y Gair. Mae'r brodyr ffyddlon sy'n myned yno ar hyd y blynyddoedd yn haeddu clod dau-ddyblyg. Henry Edwards, John Jones."