Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y bennod hon fe geisiwyd rhoi syniad am y dylanwadau. sy'n rhoi ffurf i'r cymeriad trefol. Awgrymiadau i'r cyfeiriad hwnnw a fwriedid. Ar y brodorion a'r rhai ddaw yma yn ieuainc y gweithreda'r dylanwadau hynny yn nerthol. Rhaid cofio fod y sawl a dderbyn y dylanwadau hyn yn gryfaf yn fynych yn ymadael oddiyma yn ieuainc. Bontnewydd 1807 Fe ddengys y tabl islaw berthynas gwahanol eglwysi Methodistiaid y dref a'r cylch â Moriah:—

Penrallt ydoedd enw'r hen gapel; Moriah a rowd yn enw ar y capel presennol. Yn ol y traddodiad yn y dref, nid oedd nifer y disgyblion ar y cyntaf yn gymaint a deuddeg. Nid yw Methodistiaeth Cymru yn gallu enwi mwy na chwech, heblaw Evan Richardson, ac y mae'n ansicr o ddau o'r chwech hynny. Ymhen can mlynedd ar ol sefydlu'r eglwys ym Mhenrallt fe sefydlwyd eglwys Beulah; ac yr oedd Beulah yr wythfed eglwys a darddodd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'r fam—eglwys, chwech yn uniongyrchol a dwy yn anuniongyrchol. Ymhen can mlynedd yr oedd rhif Moriah yn 595; a rhif Moriah a'r chwe changen eglwys yn 1879; a rhif eglwys ynghyd yn 2017. Erbyn 1900 yr oedd rhif y naw eglwys yn 2333. Gan fod camgyfrif yn rhif Moriah yn yr Ystadegau, fe gymerwyd ei rhif hi am 1901 yn lle 1887 a 1900. Ac yn y modd yma yr aeth y fechan yn fil a'r wael yn genedl gref.