Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Eithr y mae gwyddoniaeth rhyfel y dyddiau yma yn ein dysgu na ddylid rhoi'r pwys yn gymaint ar rifedi ag ar nerthoedd moesol. Fe debygir fod yr hanes a gyfleir yn y cyfrolau hyn yn rhoi modd i ateb y cwestiwn, pa un ai llai ynte mwy ydyw grym moesol yr eglwysi yn awr o'u cymharu â'u cychwyn? Ac fe ddisgwylir fod y drafferth a gymerwyd i agor yr hanes allan yn raddol, yn ei drefn amseryddol naturiol, yn gynorthwy nid bychan tuag at ffurfio'r ateb, cystal ag i leoli gwahanol rannau'r hanes yn eu cysylltiadau priodol.