Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MORIAH.[1]

Yr oedd Howel Harris wedi galw yn y Waenfawr ar ei ffordd i Fôn yn 1749, os nad cynt. Fe ddywedir fod cyfeiriad at ym- weliad o'i eiddo â Chaernarvon yn ei ddyddiadur, er nad oes cyfeiriad at yr ymweliad hwnnw yn unlle arall. Tebyg fod hynny oddeutu 1749, ac iddo ysgoi dod yma ar ol y tro hwnnw. Fe adroddir iddo ddweyd am y tro hwnnw iddo gael ei waredu o enau'r llew pan yma; ond ni wyddys a ddarfu iddo bregethu yma ai peidio.

Fe breswyliai ryw nifer bychan o aelodau eglwys y Waen yn y dref, dim mwy na rhyw dri neu bedwar, debygir. Adroddir ym Methodistiaeth Cymru fel y byddai rhywrai, ar adegau, yn gwylio y rhai hyn ar ffordd Llanbeblig, wrth ddychwelyd ohonynt o'r moddion yn y Waen, ac fel y byddent hwythau, er mwyn ysgoi camdriniaeth, yn troi i'r llwybr drwy fynwent Llanbeblig i ffordd Llanberis, neu ynte drwy'r llwybr yn y Caeau Bach i ffordd Bontsaint. Wedi eu siomi fel hyn nifer o weithiau, rhoes yr erlidwyr yr arfer honno heibio.

Fe arferir dweyd mai'r cyntaf ymhlith y Methodistiaid i wneud cais i bregethu yn y dref oedd Williams Pantycelyn, a hynny ar ei waith yn dychwelyd o Fón. Yr ydoedd ei wraig gydag ef ar y daith honno. Pan glywodd y werinos am ei fwriad i bregethu, yr oedd y cyffro y fath fel y barnodd Williams yn ddiogelach lithro ymaith yn ddirgelaidd drannoeth.

Dafydd Jones Llangan, hyd y gwyddis, oedd y cyntaf o'r Methodistiaid i bregethu yn y dref. Fe dybir mai yn 1786 y digwyddodd hynny. Ag ychydig gyfeillion yn ei hebrwng, aeth yr efengylwr i mewn i drol oedd yn ymyl porth y castell. Yn Ysgrif W. P. Williams, Cyfrifon a phapurau yn perthyn i'r eglwys. Adroddiad yr eglwys, 1876-9, 1883-1900. Rhestr pregethwyr 1816-9.

  1. Ysgrif ar Evan Richardson gan Griffith Solomon, Drysorja, 1833, t. 161, 193. Dyddlyfrau Thomas Lewis. Abstract of Title, 1828, ynghadwraeth Mr. R. D. Williams, cyfreithiwr. Copïau o weithredoedd heb fod yng nghist y Cyfarfod Misol, ym meddiant Mr. R. Norman Davies, ynghyda nodiadau o'i eiddo ar hanes yr achos. Atgofion y Parch. Evan Jones yn y Genedl, 1913. Ymddiddanion. Nodiadau ar yr ysgrif gan Mr. Norman Davies.