Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y fan, yr oedd lliaws wedi ymgasglu ynghyd. Wedi ymddiosg o'r efengylwr o'i gôb uchaf, wele ef yn sefyll gerbron yn ei wisg offeiriadol!—y gŵn du dros ei ysgwyddau, y napcyn gwyn am ei wddf, gyda'r labedi sgwâr yn disgyn ar ei fynwes. Yr oedd y gwr ei hunan, hefyd, o wedd brydferth ac urddasol. Ni ddisgwyliasid ddim golygfa o fath honno. Y mae yna un dyhiryn gyda'i logellau yn llawn o gerrig, ond nid gwiw ganddo yntau labyddio offeiriad. Yr oedd gwlith—wlaw ysgafn yn disgyn ar y pryd. Dyna'r offeiriad yn dechre cyfarch y dorf mewn dull mor siriol a phe buasai ynghanol ei blwyfolion yn Llangan dawel. Fel yr ae ymlaen fe enynnai ei wyneb gan sirioldeb wrth draethu ei genadwri. Wrth i'r gwlaw ddisgyn yn ddwysach, fe ofynnodd yn y man, oni roe neb fenthyg umbrella iddo i'w gysgodi? Ar hyn, aeth meistr yr adyn yr cedd y cerrig yn ei logellau i gyrchu umbrella, ac a'i hestynodd. at y llefarwr. Rhoes yntau foes-ymgrymiad wrth ei chymeryd yn ei law, ac aeth rhagddo gyda sirioldeb yn ei ddull a geiriau gwirionedd yn ei enau, a datganai ei fod mor gysurus dan yr umbrella honno a phe buasai yn eglwys Sant Paul yn Llundain! Cyfreithiwr o'r enw Howard, un a'i arswyd ar lawer, oedd yr un a estynodd yr umbrella; ac odditani hi, a thrwy'r gwlith— wlaw a ddisgynai, gan ddadseinio hen furiau'r castell, yr ae peroriaeth gysegredig mwyn efengylwr Llangan allan, gan synnu a swyno'r dyrfa o'i flaen. Cychwyniad teilwng i Fethodistiaeth Caernarvon!

John Roberts Llanllyfni (Llangwm wedi hynny), ac Evan Richardson, a fu yma yn cynnal yr oedfa nesaf, ymhen rhywfaint yn rhagor na blwyddyn ar ol yr oedfa gyntaf, fel y tybir. Ymddengys, oddiwrth yr adroddiad yn y Methodistiaeth, mai'r Cyfarfod Misol a'u danfonodd, a thebygir y bu rhai ceisiadau aflwyddiannus i bregethu yma. Daeth Evan Richardson yma o'i daith ym Môn, a daeth gydag ef John Gibson, ewythr Gibson y cerflunydd, garddwr y pryd hwnnw yn y George Inn, Porthaethwy, a thyddynnwr gerllaw'r Borth o'r enw Gruffydd. Arferai Michael Roberts ag adrodd mai ar y Sul yr aeth ei dad, John Roberts, i gyfarfod Evan Richardson yn y dref. Dygodd ei wraig ei ddillad goreu i John Roberts. Rhoe yntau ar ddeall nad oedd o un diben dwyn ei ddillad goreu iddo, gan, yn ol pob tebyg, na byddai ond budreddi drostynt i gyd cyn nos, a gofynnai am ddillad eraill. Cyfarfu'r ddau â'i gilydd, a