Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chyfarfuasant hwythau â George Lewis, y Dr. wedi hynny, y pryd hwnnw yn weinidog yn y dref, a chanddo ystafell pregethu yma yn Nhre'r-ffynnon. Nid oedd y gweinidog Anibynnol, fe ymddengys, yn hysbys o'r ddau Fethodist, a holodd hwy am eu credo. Wedi cael boddlonrwydd, cynghorodd hwy i sefyll i bregethu wrth dalcen mur ei ystafell, gan na byddai digon o le i'r bobl oddifewn. Yr oedd yno liaws o wrandawyr, a chafwyd tawelwch i bregethu. Yr wythnos nesaf yr oedd John Roberts yn y farchnad yn y dref, a theimlai yn anesmwyth ar ol dechre ohono graffu ar wr yn ei ddilyn oddiamgylch. O'r diwedd fe droes ato, ac a ofynnodd iddo, a oedd rhywbeth a fynnai âg ef? Dywedai'r gwr fod yn dda ganddo gael siarad gair âg ef, a'i fod mewn blinder meddwl fyth er pan fu ef a'r gwr arall hwnnw yn pregethu yno y Sul o'r blaen. Yna gyda syndod a llawenydd, fe gymerth John Roberts y gwr gydag ef o'r neilltu i'r Angel, sef tafarn gerllaw, ac yno, mewn ystafell arnynt eu hunain, fe gafodd hamdden i gyfarwyddo a chysuro y gwr argyhoeddedig. Galwai Michael Roberts y cyfarfyddiad hwnnw yn yr Angel, y cyfarfod eglwysig cyntaf gan y Methodistiaid yn nhref Caernarvon. Enw y gwr oedd Richard Owen.

Gorfu i John Gibson ymadael â'i le yn y Borth am ddilyn y penau-cryniaid. Cof gan W. P. Williams am dano, a dywed ei fod yn dad i ail wraig Daniel Jones Llanllechid, ac yn daid i John Roberts, argraffydd, Salford, ac yn hen daid i'r Parch. John Roberts Caer. Dilynai Gibson ei alwedigaeth fel garddwr yn Henwalia, a deuai â chynnyrch ei ardd i'r farchnad ddydd Sadwrn. Henwr ydoedd pan gofid ef gan W. P. Williams, wedi cyrraedd graddau o wybodaeth, ac yn meddu ar ddawn siarad, ac yn hoffi siarad. Saif y dafarn o hyd yn y Stryd fawr, ond wedi ei hail-adeiladu. Sylwa W. P. Williams, hefyd, i wraig y dafarn ddod yn aelod gyda'r Methodistiaid yn y man, a pharhaodd felly ar hyd ei hoes. Enwir ganddo dafarnwyr eraill oedd yn aelodau lled foreu, sef Thomas Blackburn, a gwraig o'r enw Evans o'r King's Head.

Cynhaliwyd rhai odfeuon wedi hynny yn Nhre-ffynnon, cyn symud i Danrallt. Y mae'r Methodistiaeth yn enwi'r aelodau y gwyddid am danynt yn 1787, sef Richard Owen ac Elizabeth ei wraig, John Gibson, Peter Ellis, a ddaeth yma o sir Fflint, sef tad Peter Ellis y masnachydd yn ngwaelod Stryd llyn ar