ol hynny. Dywed, hefyd, y dichon fod Richard Thomas ac Elinor [Ann] Williams, a fu wedi hynny yn wraig i Peter Ellis, yn eu plith. Fe fyddai Henry Jonathan, pa fodd bynnag, yn dweyd fod Peter Ellis yn aelod pan oedd nifer y disgyblion yn union yn ddeuddeg, ond bod Ann Williams yn aelod pan oedd y nifer yn llai na hynny. Dywedir y byddai John Gibson a Richard Owen yn myned i'r cyfarfod eglwysig ym Mrynengan. bob pythefnos am ysbaid. Ym Mrynengan yr oedd Evan Richardson, a dichon fod eu golwg ar ei gael i Gaernarvon. Unwaith, ar eu ffordd i Frynengan, penderfynasant na ddychwelent yn ol heb addewid ganddo y deuai i fyw i Gaernarvon. Cododd Richard Owen yn y seiat, a dywedodd wrth Evan Richardson, "Y mae'n rhaid i chwi ddod adref gyda ni; ni ddychwelwn heboch; y mae gan yr Arglwydd waith i chwi wneud yno yn ddiau." " O, Richard bach," ebe Richardson, "os deuaf acw, y bobl a'm lladdant i." Ar hynny cododd Sian, hen aelod, i fyny,—"Y mae'n rhaid i ti fyned, Evan bach, —ni wneir niwed i flewyn o'th ben; am hynny, dos gyda hwy."
Cefnogid y brodyr hyn gan y Cyfarfod Misol. Eithr yr oedd Evan Richardson ei hun yn gyfyng arno o'r herwydd. Yr oedd yn ymlynu wrth Frynengan, ac yn teimlo ofn ynghylch Caernarvon. Pan yn canu yn iach i'w gyfeillion yn y seiat ym Mrynengan yr oedd yn ymdreiglo ar y llawr, gan lefain yn groch. Yn ol ymchwiliadau a wnawd gan y Parch. Dafydd Jones, yn 1787 y daeth efe i'r dref. Pan yn dod i fyw i'r dref, a phan o fewn hanner milltir iddi, fe safodd yn sydyn, tarawodd ei ffon yn y llawr, torrodd allan i wylo, a dywedodd, "O'r dref annuwiol a llawn temtasiynau! pa beth a ddaw ohonwyf ynddi, wedi gadael y wlad ddistaw a thawel?"
Yn fuan wedi dod ohono i'r dref, fe gymerodd Evan. Richardson lofft yn Nhanrallt, sef ar y cwrr i'r dref sydd ar ffordd Bethel. Yr oedd y tŷ yn sefyll ychydig flynyddoedd yn ol, a'i ddrws yn wynebu'r allt wrth ddod i fyny oddiwrth Siloh. bach. Mesur y llofft ydoedd 14 troedfedd 3 modfedd wrth 11 troedfedd 8 modfedd, a 10 troedfedd o uchder. Cyn cymeryd y tŷ, neu, fe ddichon, ar ol hynny, yr oedd Evan Richardson yn pregethu yn rhywle yn y dref, pan ddaeth Garnons (nid. Garners, fel yn y Methodistiaeth), ynad heddwch yn y dref, a'r gwr o'r dylanwad cymdeithasol mwyaf ynddi, i aflonyddu arno. Cynhyrfwyd John Rowlands, dyn cryf o gorff, i amddiffyn y