Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR.

YN y Rhagair i'r ddwy gyfrol flaenorol mi ofynnais am weled hen weithredoedd capeli a allai fod ym meddiant personau neilltuol, neu hen gofnodion mewn ysgrifen o weithrediadau y Cyfarfod Misol, neu ysgrifau yn dwyn perthynas â hanes yr eglwysi, neu daflenni'r Cyfarfod Misol am y blynyddoedd 1855—7—9—61—3—4—5—7—72. Ni chefais ddim neu nemor ddim yn ateb uniongyrchol i'r cais hwn. Mi ofynnaf eto am weled y taflenni a nodwyd, gan eu bod yn bwysig er cyflenwi a chywiro'r hanes mewn llaw.

Pan ymgymerais â'r gwaith hwn 12 mlynedd yn ol, fe ddodwyd yn fy llaw, drwy gyfrwng y Cyfarfod Misol, ysgrif o bob eglwys yn cynnwys yr hanes,—neu'n hytrach, y rhan amlaf, amlinelliad ysgafn o hono,—oddieithr o 16 o eglwysi oedd heb ddanfon dim. Bu'r Cyfarfod Misol 17 flynedd yn crynhoi y rhai'n ynghyd. Minnau a gesglais y gweddill fy hun, oddieithr un; ac nid wyf yn anobeithio am honno chwaith. Fe gymerth hynny o waith y 12 mlynedd agos ar eu hyd i minnau. Nid yw gwerth yr ysgrifau bob amser yn cyfateb i'r amser a gymerwyd i'w paratoi. Yr ystyriaeth o hynny a barodd i mi grynhoi ynghyd pob deunydd hanes y gallwn gael gafael arno. Fe welir y ffrwyth o hynny mewn rhan yn yr ysgrifau a nodir ar waelodion y dalennau cyntaf ynglyn â phob lle. Deallaf fod argraff ar led mai'r Cyfarfodydd Dosbarth a grynhodd y rhai'n ynghyd, sef y rhai ohonynt sydd mewn llawysgrifen a feddylir, mae'n debyg. Camgymeriad ydyw hynny. Pe buasai hynny yn gywir, mi allaf anturio dweyd y buasai'r gwaith hwn wedi ei gwbl orffen ers talm o amser bellach.

Fe ddengys y cyfeiriadau yn y paragraff blaenaf o'r ddau uchod, cystal a chyfeiriadau eraill drwy gorff y gwaith, nad yw ffynonellau'r hanes yn gyfyngedig i'r ysgrifau a nodir ar waelodion y dalennau cyntaf hynny, pa un ai mewn llawysgrifen ai mewn argraff y byddont.

Fe wneir cyfeiriad ar ddiwedd ambell adran at gylchgrawn neu bapur wythnosol neu lyfr, er cyfleustra ambell ddarlleydd achlysurol a fynnai chwilio ymhellach i'r hanes a geir yn y fan neilltuol honno. Pan wneir deunydd o'r ffynonellau