Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynny, oddieithr gydag amseriad neu bethau amgylchiadol, fe fynegir hynny'n bendant y rhan amlaf yn y fan a'r lle.

Nid yw ond gweddus i mi ddweyd, pan yn dyfynnu o lawysgrifau, er defnyddio dyfyn-nodau, fy mod yn ddieithriad braidd yn crynhoi ac yn cwtogi yr ymadrodd, er mwyn rhoi cymaint fyth a ellir o hanes o fewn cyn lleied fyth a ellir o le.

Fe drefnwyd, drwy benderfyniad y Cyfarfod Misol, fod yr hanes i ddibennu gyda diwedd y flwyddyn 1900. Ni cheir, gan hynny, fwy na chyfeiriad digwyddiadol, megys, at neb a fu farw yn ddiweddarach na hynny. Ni olrheinir hanes neb chwaith, ar ol symud ohono i Gyfarfod Misol arall, ymhellach. na'r symudiad hwnnw, oddieithr weithiau pan wedi symud i wlad arall, neu fod rhyw fymryn o chwanegiad achlysurol wedi ei wneud. Yn wir, o ddechreu'r gwaith, ychydig o hanes amgylchiadol neb personau a roir, gan y golygid hynny yn groes i amcan yr hanes: arhosir gan mwyaf gyda'r nodweddiad a natur dylanwad y personau hynny yn yr eglwysi.

W. HOBLEY.