siopwr, Caernarvon. Yn ol Abstract of Title, Awst 23, 1828, benthyciwyd £1,000, ac adeiladwyd y capel a ddefnyddiwyd hyd 1806.
Fe welir oddiwrth y swm a fenthyciwyd fod mewn golwg gapel cymharol fawr. Nid oedd ond £60 o'r swm yn myned i brynnu'r tir. Rhaid fod llwyddiant mawr ar yr achos yn Nhanrallt. Yr oedd Evan Richardson yn boblogaidd fel pregethwr, yn barchus fel dyn, yn llwyddiannus fel ysgolfeistr. Diau mai i'w ddylanwad personol ef yn bennaf y rhaid priodoli y llwyddiant anarferol. Fe ddywedir y bu'n cynnal yr achos am ysbaid ar ei draul ei hunan, ac wedi hynny, am ysbaid, efe yn bennaf a'i cynhaliai. Cadwai gyfarfod i holwyddori'r plant un noson, pregethai noson arall, a chadwai gyfarfod eglwysig y drydedd Yn ol y Methodistiaeth fe bregethai ar brydiau ddwywaith neu dair neu bedair yr un noson yn y dref, mewn wylnos, neu yn ystod y dydd ar fwrdd llong cyn ei lansio, neu achlysur arall. Nid peth anfynych, fe ddywedir, oedd y pregethu aml hwn, ond i'r gwrthwyneb. Chwarter awr fyddai hyd y pregethau hyn, ond byddent yn hynod fywiog ac effeithiol, y rhan fynychaf yn gadael y cynhulliad mewn dagrau. noswaith.
Dyma ddyfyniad o daffen Casgl Dimai y Cyfarfod Misol: 1797, Medi, Caernarvon £12 6s. 7g. [sef i gynorthwyo'r achos yma]. Rhagfyr, £2 19s. 7g. 1798, Rhag. 3, y ddyled i gyd yn bresennol £90. 1799, Ionawr, Talwyd i John Roberts yn achos llog capel Caernarvon a'r golled yn achos arian drwg, £4 18s. Hydref, talwyd llog dros Gaernarvon, £4 10s. 1801, Awst 6, Talu i Gaernarvon £90, hefyd eu llog £4 10s.' Yr oedd hyn yn orffen talu'r ddyled.
Dywed W. P. Williams mai capel bychan diaddurn ydoedd, gydag oriel fechan yn un pen iddo gyferbyn a'r pulpud. Wrth ei gymharu â'r capel godwyd yn ddiweddarach y rhaid ei alw yn fychan, debygir. Ym Mount Pleasant Square yr ydoedd. Yr oedd yr aelodau eglwysig yn 1805 yn rhifo 154, sef 50 o feibion a 104 o ferched. Ac yr oedd hynny mewn cyfnod pan yr oedd yr eglwys yn llawer llai mewn cymhariaeth â'r gynulleidfa nag ydyw yn awr. Bu John Elias yn ysgol Evan Richardson am rai misoedd. Fe fyddai Owen Thomas, yn ei ddarlith ar yr hen bregethwyr, yn adrodd am amgylchiad ynglyn â John Elias, a ddigwyddodd yn y capel hwn, a hynny ar ol yr hen flaenor, Griffith Roberts Capel Seion, Clynnog. Yr oedd John