Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Elias yn pregethu yma mewn Cyfarfod Misol yn 1799, ac yntau y pryd hynny yn 25 oed. Yr oedd efe y pryd hwnnw yn anarferol o boblogaidd, a chredai pregethwyr y sir fod eisieu "torri asgwrn ei gefn," er mwyn ei ddiogelu rhag balchter ysbrydol. Yn yr oedfa eisteddasant ar flaen yr oriel gyferbyn ag ef, er mwyn rhoi eu harswyd arno. Yr oedd John Jones Edeyrn, John Roberts Llanllyfni, Robert Jones Rhoslan, Robert Roberts Clynnog, yn eu plith, cewri o ddynion. Testyn y pregethwr ieuanc oedd, "Dywedwch mai da fydd i'r cyfiawn." Yn rhyw ran o'r bregeth, fe ddisgrifiai Samuel yn gwrthod y naill ar ol y llall o feibion Jesse fel brenin, ac yna yn gofyn iddo, "Ai dyma dy holl blant?" Atebodd Jesse fod yr ieuengaf eto'n ol, "ac wele y mae efe'n bugeilio'r defaid," megys pe na buasai yn werth ei gyrchu. Eithr rhaid ydoedd ei gyrchu, a hwn, er iddo beidio bod fel Eliab o ran awdurdod gwynepryd ac uchder corffolaeth, oedd eneiniog yr Arglwydd. "Cyfod, eneinia ef, canys dyma efe." Ar hynny dyna Robert Roberts, yn fyrr a chrwea, yn gwaeddi allan, "Bendigedig, dyna obaith i Robin." Fel mai yn lle cael ei orchfygu, y pregethwr ieuanc a orchfygodd.

Adroddir fod gan wraig Evan Richardson, sef ei wraig gyntaf yn ddiau, law go amlwg yn newisiad y blaenoriaid. Craffai hi ar y rhai cymhwysaf, a chymhellai hwy ar sylw ei gwr. A thebygir mai efe a'u galwai i'w swydd yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Erbyn 1806 dyma hwy: Dafydd Jones y cwper, John Rowlands Parcia cochion, Gruffydd Samuel, William Owen, Owen Jones y llyfr-rwymydd.

Erbyn 1806 yr oedd y capel yn rhy fychan, a rhaid ydoedd ei helaethu. Dyma fel y dywedir yn yr "Abstract of Title": "The old chapel being found by far too confined for the congregation usually assembling therein, a piece of ground adjoining the same was in that year [1806] purchased." Mai 14, 1806, cytunwyd rhwng Jabez Thomas meddyg, Caernarvon, a'r rhai a enwyd ynglyn â phryniant y tir o'r blaen, oddigerth W. Williams, yr hwn oedd wedi marw, am ddernyn o dir ynglyn wrth y capel i'r dwyrain, am £80. Ar hyn rhowd chwanegiad at y capel "for a very considerable sum of money." Amlwg na wyddid erbyn 1828 faint yn benodol oedd traul yr helaethiad. Eithr fe ddywedir fod y ddyled yn £700 yn 1826, cyn codi'r capel newydd. Yr oedd dwy oriel i'r capel ar ol ei helaethu, un