Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dr. Lewis Edwards (Geninen Gwyl Dewi, 1900, t. 32), yn myned i ddangos nad oedd cylch eang i'w feddwl na dim treiddgarwch arbennig yn perthyn iddo. Er hynny, fel pregethwr, fel y dywed Owen Thomas, yr oedd yn un hollol ar ei ben ei hunan. Rhyw swyn sanctaidd oedd ei hodwedd.

Pregethai'r efengyl yn llon,
Dyrchafai ei mawredd ar goedd ;
Ymlonnai'i wrandawyr o'r bron,
Gan ryfedd feluster ei floedd.—(Eryron Gwyllt Walia.)

Heblaw ymddanghosiad hardd a llais melodaidd ac eneiniad, yr oedd, hefyd, ryw chwarëurswydd tlws yn ei ffansi. Rhydd Griffith Solomon rai enghreifftiau, a daw grym y pregethwr i fesur i'r golwg ynddynt. Wrth bregethu ar Gwir yw'r gair, ac yn haeddu pob derbyniad, fe ddywedai, "Efe a gadwodd ein bywydau, efe a gyfiawnhaodd ein personau, efe a faddeuodd. ein pechodau. Haleluia!" Wrth goffa'r geiriau am wrthwynebu Satan yn gadarn yn y ffydd, fe ddywedai, "Cofiwch, nid gwiw tynnu Groeg na Hebraeg ato; ond yn y ffydd y mae ei orchfygu ef." Wrth bregethu mewn cymanfa ar y geiriau, Dyledwr ydwyf i'r Groegiaid . . . fe dybiai yntau fod rhywun yn gofyn, paham y daethant hwy yno? i'r hyn yr atebai, "Dyledwyr ydym!" Ar y geiriau, Megys gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo, fe sylwai fod "lladron am ysbeilio y cristion o'i dlodi," gan olygu mai ei deimlad o'i dlodi ydoedd ei drysor mwyaf. "Yr oeddych yn gweled eich hunain yn dlodion pan dderbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd;—felly rhodiwch ynddo." Sef peidiwch a gadael i ladron eich ysbeilio o'r olwg gyntaf honno a gawsoch arnoch eich hunain yng Nghrist. Ar y geiriau, O'i wir ewyllys yr enillodd efe nyni drwy air y gwirionedd, fe sylwai na byddai gwraig na phlant yn arfer bod gyda gwr wrth wneud ei ewyllys, ac felly "nid oedd neb o honom ninnau gyda Duw yn y cyngor tragwyddol yn ei gymell i gofio am danom yn ei ewyllys grasol. Ond fe gofiodd am danom cyn gosod coppa'r Wyddfa. Haleluia! Bendigedig y fo efe!" Ar y geiriau, Iesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd, elai ymlaen yn y dull yma : Yr un ddoe dan yr Hen Destament—heddyw yr un dan y Newydd. Ddoe gydag Abraham yn egluro ei ddydd iddo—heddyw yr un yn egluro ei hun i ninnau. Ddoe gyda Moses yn