ei hyfforddi i wneud y Babell—heddyw yn ein nelpu ninnau i bregethu yn y Bala. Yr un ddoe cyn amser; ac yn dragywydd wedi i amser ddarfod. Wele un wedi dyfod o dragwyddoldeb i fyd o amser; a myned ohono i dragwyddoldeb yn ol, gan orchfygu angeu ar y ffordd. Efe a edwyn ol ei draed yn yr afon. Diolch iddo byth, byth!" Arferer dychymyg hanesiol uwchben yr ymadroddion hyn: craffer ar y llefarwr glandeg, a'i ddull serchiadol, iraidd, ac agorer y glust i'w acenion melysion, a chrynhoer ynghyd y gynulleidfa gydymdeimladol, ac ni bydd mor anhawdd i'r darllenydd a ŵyr rywbeth am werth y profiadau a orwedd o'r tu ol i'r ymadroddion, sylweddoli mesur helaeth o'r swyn a'r dylanwad. Yr argraff ar John Wynne wrth ei wrando ydoedd fod pob ymadrodd yn llawn o fater ysbrydol (Goleuad, 1874, Hydref 24). Efengylu gras y byddai ef, gan adael allan felltithion y ddeddf yn o lwyr, megys, i'r gwrthwyneb, y byddai Daniel Jones Llanllechid yn tarannu melltithion y ddeddf ym mhob pregeth, boed pwnc y testyn. ddeddf neu efengyl. Yr oedd y ddau hyn, ebe David Williams (o Gaernarvon a Chonwy), gyda'i gilydd yn pregethu ar un achlysur, a themtiwyd rhyw wrandawr i gymhwyso y geiriau hynny atynt ar derfyn yr oedfa:
Wele Sinai a Chalfaria
Heddyw wedi dod ynghyd.—(Drysorfa, 1888, t. 130.)
Y dull serchiadol yma, mewn presenoldeb ac acen ac ysbryd, yn ddiau oedd y prif un o'i deithi; ac yn yr awyr deneu, oleu yma, yr oedd chware ysgafn ei ddarfelydd yn gorffwys yn esmwyth ar bob teimlad. Sylwa Griffith Solomon fod ei ddull yn holi plant "yn serchiadol, bywiog ac enillgar iawn." Wrth ofyn, "A ddymunech chwi gael gras?" a derbyn yr ateb, "fe ddywedai yntau'n ol, "Yr Arglwydd a'i rhoddo i chwi." Pan atebai plentyn wrth ei fodd, fe ddywedai wrtho, "Bendith ar dy ben di byth!" neu ynte, "Bendith ar dy gopa di!" Dywed Griffith Solomon ei fod mor gymeradwy yn ei gartref a neb a ddeuai yno o Ogledd neu Ddeheudir Cymru, yn y dyddiau hynny o deithio mawr. Ac y mae efe yn elfennu achosion ei lwyddiant anarferol yn y dref fel yma: (1) Ei rodiad sanctaidd gyda Duw; (2) ei lanweithdra a'i syberwyd mewn corff a gwisg; (3) nefoldeb ei athrawiaeth ac efengylrwydd ei weinidogaeth; (4) ei waith yn cateceisio plant.