Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dywedir y cafodd ugeiniau lesad tragwyddol drwy'r catceisio, a bod y cateceisio wythnosol wedi parhau hyd hynny, sef 1833, fel ffrwyth ei esiampl ef. Mewn hen ysgubor ym Mhenrallt y dechreuodd gateceisio, fel y dywedir, a neilltuai noswaith o'r wythnos i'r gwaith. Diau, er hynny, mai rhan fawr o'i ddylanwad yn y dref oedd ei lwyddiant fel ysgolfeistr. Bwriedid iddo fod yn offeiriad gan ei rieni, a chafodd ei addysg yn hen ysgol enwog Ystradmeurig. Yr oedd yr enw o ysgolhaig y dyddiau hynny yn dwyn gydag ef ddylanwad arbennig. Ac ynddo ef yr oedd bri ysgolheigtod wedi ei ieuo ag awdurdod a serchowgrwydd yr ysgolfeistr. Mae y sawl a adnabu rai o'i hen ysgolheigion yn gallu atgofio am y dôn o barchedigaeth serchiadol yn eu cyfeiriadau ato. Yr ydoedd yn gyfarwydd yn y Roeg a'r Lladin, ac yr oedd ganddo ryw gymaint o'r Ffrancaeg, ac ymhen rhai blynyddoedd wedi dod i'r dref ymgydnabu â'r Hebraeg. Geilw Griffith Solomon ef yn rhifyddwr da. Arferai John Roberts y dilledydd (o'r Cefneithin), a breswyliai yn Stryd y Palas, ag adrodd am dano yn gwrando'r bechgyn yn darllen eu Testament Saesneg gyda'r Testament. Groeg yn ei law ei hun. Gallai fod wedi darllen y Saesneg cyn dod i'r dosbarth. Ni raid petruso meddwl fod yr ysgolfeistr yn rhoi bri arno yn y dref a'r wlad yn gyffredinol. Dangosir ei safle uchel yngolwg y Cyfundeb yn y ffaith ei fod yn un o'r wyth a neilltuwyd yn yr Ordeiniad cyntaf yng Nghymdeithasfa Gogledd Cymru. Yr oedd yr ysgol yn llyffethair arno rhag efengylu yn y wlad i'r un mesur a'r nifer mwyaf o bregethwyr poblogaidd y Corff y pryd hynny. Eithr, yn ol ei allu a'i ryddid, fe deithiai yntau Dde a Gogledd ac hyd drefi Lloegr. Bu yn myned i'r Deheudir yng ngwyliau Nadolig am flynyddoedd. Fe glywodd Griffith Solomon amryw o wŷr y Deheudir yn tystio fod y disgwyliad am dano yno fel am y gwlaw ar sychdir. Bu'n foddion i ddarostwng erledigaeth yng Nghorwen y pryd na cheid llonyddwch i bregethu cyn hynny hyd yn oed i'r parchedicaf a'r mwyaf urddasol. Digwyddai fod yno gyfarfod o'r ynadon ar y diwrnod yr oedd ef i bregethu yno. Safai yr ynadon i wrando arno yn yr heol, a throes yntau i'w cyfarch yn y Saesneg. Cafodd wrandawiad parchus ganddynt; ac wrth eu gweled hwy yn gwrando fel hynny, ni feiddiodd yr un o'r erlidwyr ei aflonyddu. O'r pryd hwnnw allan fe gafwyd llonyddwch i bregethu yng Nghorwen. Y mae un hanes am dano