Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deimlad at ei weddw,—"Y mae efe'n awr yn y tragwyddol fwynhad o roi'r goron ar ben y Brawd Hynaf, sef yr hyn a ddymunodd fil o weithiau."

Yn 1826 yr adeiladwyd y capel presennol. I'r capel hwn y rhowd yr enw Moriah. Penrallt oedd enw'r hen gapel, ac hyd o fewn rhyw 40 mlynedd yn ol Penrallt oedd yr enw cyffredin ar y capel presennol, o fewn cyffiniau y dref. Fel hyn y cyfeirir at yr adeiladu yn yr "Abstract of Title": "The chapel thus enlarged [yn 1806] was found to be considerably too small to contain the congregation assembling therein. It was therefore determined by several of the principal members of the congregation to pay the debts of the old chapel and build a new one. This debt was £700. In 1826 a piece of ground near the old chapel was purchased for £300. £3,000 and upwards was spent on the new chapel. In 1827, April 2 and 3, the old chapel was sold for £450 to W. Lloyd clerk and others. The parish bought this property for the purposes of a poorhouse for £450, which is an advantageous purchase for the parish." Cwtogwyd rhai o'r ymadroddion a ddyfynnwyd amryw weithiau o'r "Abstract of Title." Os y talwyd y £700 o ddyled ar yr hen adeiladau gan rai o'r prif aelodau, a hynny heb gymorth y £450 a gafwyd am danynt, fe ddangosai hynny haelioni amlwg. Talwyd £350 am y tir i'r Arlwydd Newborough. Safai tri o dai arno. Ei fesur 25 llath wrth 18. Yn ol rhai adroddiadau yr oedd yr holl draul yn £4,500. Yr oedd amryw dai wrth gefn y capel yn eiddo iddo. Y mae dangosiad a roir eto yn profi fod adeiladu'r tai hyn yn rhan o'r cynllun cyntefig. Y mae'n lled amlwg, gan hynny, fod y tai hyn, cystal a thŷ'r capel, i'w cynnwys yn y £4,500. Dengys nodiad a godwyd gan Mr. Norman Davies o'r cofnodion plwyfol mai yn Awst 10, 1828, y prynnwyd yr hen gapel gan y plwy er mwyn ei wneud yn dloty. Gelwir y fan o hyd wrth yr enw Pwrws, er i'r tloty gael ei adeiladu yn y Morfa yn 1847.

Ceir disgrifiad o'r capel yn y Trysor i'r Ieuenctid am Hydref 1826, sef y chweched rhifyn o fisolyn ceiniog bychan a olygid gan John Wynne. "Capel newydd Penrallt, Caernarvon.

Mae'r addoldy hwn yn 75 troedfedd ei hyd a 53 tr. 9 mod. ei led oddifewn, ac iddo yn y pen deheuol o dan y llawr le helaeth i gadw ysgol, etc. Mae iddo 36 o ffenestri, 26 yn perthyn i'r gallery. Ei dalcen gogleddol sydd o graig Runcorn ac ynddo