Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dri o ddrysau, un i'r llawr a'r lleill i'r gallery. Y gallery ar ddull cylchog, yn cael ei chynnal ar 12 o golofnau haearn, ac ynddi 130 seats, y rhai a gynhaliant o 7 i 8 eistedd ynddynt, ac ar y llawr 150 seats, yn y rhai yr eistedd o 2 i 5. Felly gall dros fil eistedd yn gysurus ynddo. Dechreuwyd ei adeiladu Mai 16, 1825. Pregethwyd y waith gyntaf, Awst 6, 1826, Mr. John Williams Dolyddelen a Mr. James Hughes Lleyn yn gweini— dogaethu. Yr oedd y gynulleidfa yn lluosog iawn, y capel yn llawn; yr oeddynt yn clywed (Mr. James Hughes yn enwedig) o bob man ynddo, ac mae yn ymddangos ei fod yn lle mor gysurus ag un man a welir i addoli. Terfynwyd y Saboth ynddo yn dra chysurus, y brodyr yn cael cymorth i bregethu, a'r gynulleidfa yn cael cysur wrth wrando. J. W.

Yn y Tŷ hwn, gwn, yn gu,—tro ethawl,
Y traethir am Iesu;
Er cyfarch, o barch y bu,
Trwy ing, tros ddyn yn trengu.—(Dewi leuanc.)"

Fe gynlluniwyd y capel gan Robert Jones Amlwch, fel y gelwid ef, pensaer, Caernarvon. Yr ymddiriedolwyr oedd y rhai hyn: Robert Griffith, Richard Owen, Parch. W. Lloyd, John Huxley, John Wynne, Robert Evans, Humphrey Pughe, Parch. J. Jones Tremadoc, Parch. Michael Roberts, Parch. John Jones Talsarn. Richard Williams, Ironmonger, oedd y trysorydd, a W. Owen yn ysgrifennydd.

Y mae lliaws mawr o ddangosiadau ynglyn â'r adeiladu ar gadw. Pigir allan yma rai manion. 1825, May 20, For pulling down the old house at Penrallt, £5. To Evan Jones for gravel. Allowance of ale, 5s. 4d. Drawing several working plans for the chapel, £1. 1s. John Jones. To 42 Tons Runcorn Building Stones a 6s. P Ton, £12. 12s. Allowance at Runcorn 1s. 6d. Drawing a plan for the new Chapel, with houses at the back—a Map also of the ground, £3. 3s. John Jones [sef mab Robert Jones y pensaer]. To Howell Thomas Susannah for carry forty tons of free stones from Runcorn at 6 shillings per ton, £12. To O. Williams & Co. Building O. Hughes's Gable End, 69 yards a 1s. 6d. 5. 3. 6. To 45 tuns of stones at 10ld., £1 19s. 4d. To 12 Quarters of lime a 17d. p Q. 17s. To Evan Jones for Alowance of Ale, 10s. 2d. To 1 Load Building Stones from Plasnewydd quarry p the Royal Oak, Ag. 15 Tons 1s. 6d.,