Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn 1839 yr adeiladwyd capel Nazareth. Elai'r pregethwr o Foriah i Nazareth am ddau pnawn Sul, ac elai'r blaenor, Dafydd Rowland, gydag ef. Yr oedd y pregethwr yn myned i Gae- athro cyn hynny.

Bu Mr. Lloyd farw Ebrill 16, 1841, yn 70 mlwydd oed. Daeth i Gaernarvon o Frynaerau yn 1817. Fe gymerodd y radd o B.A. yn Rhydychen, ac ystyrrid ef yn ysgolhaig Lladin gwych. Derbyniodd urddau eglwysig yn 1801, yn 30 oed. Dilynai fuchedd ofer. Aeth drwy bangfeydd argyhoeddiad, a llifai pobl i wrando arno, wedi ei ddeffro felly, yn llanau Llanfair, Rhoscolyn a Llanfihangel ym Môn. Yn y man fe ymunodd â'r Methodistiaid yng Nghaerceiliog. Pan ddaeth at y Methodistiaid nid oedd yng Ngogledd Cymru ond Thomas Charles a Simon Llwyd wedi eu neilltuo yn rheolaidd i weinyddu'r ordinhadau eglwysig, a derbyniwyd ef yn groesawus. Ceisiwyd ganddo ymroi i wasanaethu'r Cyfundeb yn llwyr, gan ei sicrhau na byddai arno eisieu dim, ond gwell oedd ganddo fod yngafael â galwedigaeth fydol. Bu yng Nghaernarvon am beth amser yng ngwasanaeth brawd o farcer oedd iddo yma, cyn symud i Nefyn i arolygu fferm ei fam a'i chwaer. Wedi bod yn cadw ysgol ym Mrynaerau, dilynodd yr un alwedigaeth yng Nghaernarvon hyd nes y priododd, ac am y 15 mlynedd diweddaf o'i oes yr oedd yn rhydd oddiwrth alwedigaeth fydol. Y mae lliaws yn cofio fel y byddai ei gydoeswyr yn y dref yn cyfeirio at "Mr." Lloyd, a phob amser gyda gradd o barchedigaeth yn y dull yr yngenid y "Mr." Disgrifir ef cyn ei droedigaeth fel dyn ffroenuchel, balchaidd. Eithr yr argraff gyffredinol oddiwrtho wedi hynny ydoedd eiddo dyn o ysbryd plantaidd, chwedl Morgan Llwyd, gan chwilio am air gwahaniaethol ei ystyr oddiwrth plentynaidd. Anaml y cyferfid â dyn diniweitiach na Mr. Lloyd, a'r disgrifiad a roid ohono fyddai, "Mr. Lloyd dduwiol, ddiniwed." Er hynny, fe lwyddodd efe gyda hogiau'r dref, pryd y methodd gan John Williams, er y cyfrifid yntau, hefyd, yn wr duwiolfrydig. Tebyg fod y naws uchel oedd yn Mr. Lloyd cyn ei argyhoeddiad yn rhoi rhyw ias o awdurdod yn ei ddull, er y cyfnewidiad amlwg a ddaeth drosto. A rhaid cofio, hefyd, mai "Mr." ydoedd, neu un a fu yn wr eglwysig. Yr oedd i hynny ei ddylanwad priodol ei hun y pryd hwnnw ar feddwl gwerin. gwlad, ac hyd yn oed uchelwyr gwlad. Yr oedd efe o gydwybod dyner. Wedi ei argyhoeddiad, aeth y gwasanaeth bedydd yn