Haul arno, a thorrodd allan mewn gorfoledd. (Goleuad Cymru, 1830, t. 1, gan Edmund Parry).
Ym Mai, 1831, daeth y Parch. Dafydd Jones i Gaernarvon. Yn 1832 dewiswyd yn flaenoriaid, Joseph Elias, William Swaine, Owen Ellis.
Tybia W. P. Williams mai John Rowlands Parcia cochion, pannwr, a wnawd yn flaenor yn nesaf ar ol Dafydd Jones y cwper, ac yr oedd yn y swydd cyn dod i'r dref. Yr oedd yn ddyn tal, syth, prydweddol, ac o dduwioldeb diamheuol. Dechreuai yr odfeuon yn achlysurol. Bu farw yn 1833, yn 64 oed.
Yn 1837, neu yn ymyl hynny, y symudodd Griffith Evans i Rostryfan, wedi bod yn flaenor yma am 25 mlynedd. Fel y lloer, anfynych y gwelai namyn yr ochr dywyll. Hyd yn oed mewn gweddi, ebe W. P. Williams, yr oedd fel un yn cymeryd yn ganiataol fod yr achos ar drengu. Llym a miniog ei ddull, a llym mewn disgyblaeth. Bu'n llafurio ymhlith y rhai cyntaf yn ysgol Longlai, sef cychwyn yr achos yn Nazareth, ac efe oedd yr arolygwr cyntaf yno. Yr oedd yn wr da, cywir, crefyddol. (Edrycher Rhostryfan).
Bu Richard Jones (Treuan) yn flaenor ym Moriah am rail blynyddoedd. Symudodd i Bwll y barr ger Caeathro. Y mae ei enw gyntaf ar lyfr yr eglwys yn 1817. (Edrycher Caeathro ac Engedi). Humphrey Llwyd Prysgol oedd flaenor arall, a fu wedi hynny yng Nghaeathro. (Edrycher Caeathro).
Daeth John Williams Caeathro yma o Gaeathro, lle y cadwai ysgol, a glynodd enw'r lle wrtho. Daeth yma yn 1826 i gadw ysgol Mr. Lloyd, ar ol iddo ef ei rhoddi heibio. Rhy ddiniwed ydoedd i allu gwastrodedd hogiau'r dref, ac aeth ymaith cyn bo hir. Yr oedd yn bregethwr cystal ag ysgolfeistr, ac yn wr da; ond ni wyddys mo'i helynt ymhellach.
Yr oedd swm y casgliadau yn 1833 yn £75 12s. 8g. Rhannwyd fel yma: I'r tlodion, £26 18s. 8g. At yr achos, £25. 8s. 4c. Pregethu yn Dublin, £2. 6s. 6ch. Dyled y capeli, £3. 9s. 1½g. Cymdeithas Genhadol Llundain, £17. 10s. 1g. Swm y casgliadau yn 1837, £92. 13s. 6ch., a rhannwyd fel yma: I'r tlodion, £30. 6s. 11g. I'r achos, £32. 12s. 10½c. Cymdeithas Genhadol Llundain, £19. 18s. 11g. Cymdeithas Genhadol Gartrefol, £9. 14s. 9½c.