Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgwyd llaw â'r pregethwr, fe gawsent bob o gypanaid fechan o gwrw poeth a phupur cloves ynddo gan Mari Hughes. Fe ddarfu i William Griffith ei hun flasu y ddioden felysboeth hon, er cymaint dirwestwr a fu efe yn ol hynny.

Yr oedd William Owen yr eillydd ar lyfr yr eglwys yn 1805, ac feallai yn flaenor cyn hynny. Ei enw ef oedd ar yr ymrwymiad y cyfeiriwyd ato. Dywed W. P. Williams ei fod yn wr tawel ac yn gristion gloew, yn ymwelwr â'r cleifion, ac yn athraw ffyddlon. Pan mewn oedran fe ymbriododd â lodes ieuanc oedd. yn gweini gydag ef, a hithau heb fod yn aelod. Diarddelwyd ef, ond dychwelodd yn ol fel aelod.

Daeth Robert Jones Amlwch, fel y gelwid ef, er mai brodor o Bwllheli ydoedd, i Gaernarvon tuag 1808. Gwnaed ef yn flaenor, a pharhaodd yn y swydd hyd 1827. Ni eglurir pa beth oedd yn lluddias iddo barhau. Dywed W. P. Williams ei fod yn ddyn call, lled ddysgedig, a chrefyddol, ac y daeth i feddu ar gryn ddylanwad yn y dref. Dywed, hefyd, mai yn ei dŷ ef y byddai John Elias yn lletya, ac iddo fedyddio ei holl blant ef. Y mae sôn, pa ddelw bynnag, am John Elias yn lletya gyda'r Dr. William Roberts, ewythr y Dr. Watkin Roberts. Rhoddai Robert Jones bedwar o welyau at wasanaeth y Sasiwn pan gynhelid hi yn y dref.

Bu John Hughes y pregethwr farw, Gorffennaf 20, 1828, wedi dechre pregethu yma yn 1814. Yr ydoedd yn wanaidd o gorff a chloff. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy, a chanddo fesur helaeth o ddawn y weinidogaeth. "Ychydig y bu ef; yr oedd yn effro tra y bu," ebe Griffith Solomon (Drysorfa, 1837, t. 119). Yn fachgen yr oedd yn nodedig ym mhob digrifwch, ac yn ymhoffi mewn dynwared pregethu. Aeth yn ddiofal am y moddion, ond fel y llwyddodd ei ewythr, William Owen yr eilliwr, gael ganddo ddilyn drachefn yn gyson. Gallai gofio pregethau pan na fedrai eu deall yn iawn. Daeth dan argyhoeddiad pan oddeutu 14 oed. Enillwyd ei feddwl gan mwyaf drwy bregeth ar, A ei di gyda'r gwr hwn? a chymhellwyd ei feddwl i wneud proffes. Yr ydoedd yn ysgub blaenffrwyth diwygiad 1818. Cafodd allwedd cyfrinach â'r Arglwydd mewn dirgel weddi. Yr oedd o ddeall cyflym a golygiadau treiddgar, ac yn ddawnus ei ymadrodd. Dechreuodd bregethu yn 22 oed. Teithiodd drwy'r ran fwyaf o Dde a Gogledd. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo. Yn nos angeu fe gododd yr