y carodd efe ni, ïe, pan oeddym feirw mewn camweddau a'n cyd—fywhaodd ni gyda Christ: trwy ras yr ydych yn gadwedig. Trwy ras! trwy ras! trwy ras!' Dyma obaith i'r anheilwng. Dyma obaith i minnau. Dyma obaith i tithau." Dywedir ymhellach y byddai arogledd sanctaidd yn wastadol ar yr hyn a ddywedai yn y Cyfarfod Misol. "Wedi ei wneuthur i ni gan Dduw." "Ie, frawd bach, ie, gyfeillion bach, ie, frodyr anwyl, 'gan Dduw '—fel yr oedd y brawd ifanc yn dywedyd neithiwr— daliwch ati, 'machgen anwyl i,—'gan Dduw '—y Duw y darfu i ni bechu yn ei erbyn; y Duw ddarfu i ni ddigio; y Duw biau'r gyfraith; y Duw fydd yn ein barnu; 'gan Dduw'—peidiwch digalonni, frawd bach; ymddiriedwch ynddo, frodyr anwyl; 'gan Dduw.' Bendigedig a fo. Mae o'n siwr o fod wedi gwneuthur ei waith yn iawn." Yr amser cyntaf ar ol ei argyhoeddiad, yr oedd dan y fath gyffro teimlad, fel ag i'w godi yn ei bregethau uwch ei law ei hun. Aeth sôn allan am dano, fel pan y daeth i Gaernarvon am y tro cyntaf, nad allai y capel gynnwys y gynulleidfa. A phregethodd am drysori digofaint erbyn dydd digofaint gydag effaith nas anghofid. A thros weddill ei oes, fe fyddai ar brydiau, wedi cyrraedd ohono ryw nôd yn y bregeth, yn ymgodi i ddylanwad trydanol. Ac fel y dywedodd Spurgeon am George Müller, yr oedd George Müller ei hun o'r tu ol i'r bregeth. A thywynnai disgleirdeb duwiol Mr. Lloyd drwy bob afrwyddineb yn y bregeth, a thywynnai, hefyd, yn ei ymddanghosiad, ac yn ei holl fuchedd, ac am yn hir wedi ymadael ohono â'r fuchedd hon. Pe cawsai Ddaniel Owen arall i'w gyfleu mewn chwedloniaeth, oddiar adnabyddiaeth deg ohono, fe wnaethai gymeriad cyfartal i Ddr. Primrose Goldsmith, neu Parson Adams Fielding. Ei air olaf,—Y mae yn dawel iawn oddifewn.
Pan âf uwch ei ystafell |