A dagrau caredigrwydd, |
(Drysorfa, 1844, t. 193 ac ymlaen, gan D. Jones; 1870, t. 126. Cofiant John Jones, t. 130.)
Engedi yn cael ei agor, Mehefin 19, 20, 1842. Aeth 120 o Foriah yno, ac yn eu plith Robert Evans a Joseph Elias. Yr oedd Robert Evans yn arolygwr yr ysgol er 1817, ac yr oedd yn ysgrifennydd yr eglwys er oddeutu'r un amser, a chyflawnai'r naill swydd a'r llall yn gwbl foddhaol, yn ol tystiolaeth W. P. Williams. Gwrthododd ymgymeryd â'r flaenoriaeth yn 1825; ond gwnaeth hynny pan ddewiswyd ef drachefn yn 1828. Gweithiwr tawedog a fu ym Moriah, ac ar ol hynny y datblygodd ei alluoedd cyhoeddus. Bu Joseph Elias yn gyd-arolygwr â Robert Evans am rai blynyddoedd, ac yn flaenor er 1832. (Edrycher Engedi ymherthynas â'r ddau hyn.)
Yn 1843 y daeth y Parch. Thomas Hughes i Gaernarvon. Bu John Humphreys farw Hydref 17, 1845, yn 70 oed. Dechreuodd bregethu yn 1809. Yn 1829 ataliwyd o bregethu oherwydd gormod ymarfer â'r diodydd meddwol. Bu ar ol hynny yn Nerpwl am 3 blynedd. Yna dychwelodd i Gaernar— von. Cymerth yr ardystiad dirwestol ar ol hynny, a threuliodd y gweddill o'i amser yn loew ei gymeriad. Cyfrifid ef yn wr tirion a charedig ac yn bregethwr swynol. Dan ei bregeth ef yr argyhoeddwyd Owen Owens Corsywlad oddeutu 1818, a blaenor arall, sef Henry Jones, a fu'n ffyddlon am oes faith yn Golan. Pan yn bregethwr fe gyfyngai ei hun yn bennaf i'r dref a'r gymdogaeth. Dywedodd unwaith wrth Dafydd Williams y pregethwr, "Dafydd bach, y mae'r Graig yma, ond fod llawer o bridd arni."
Yn 1845 dewiswyd yn flaenoriaid, Richard Evans, W. P. Williams, Richard Prichard. Labrwr oedd Richard Prichard, ond gwr parchus a defnyddiol. Cafodd ei wraig dro amlwg dan bregeth Ebenezer Morris yn 1818, cyn ei briodi ef, a hithau y pryd hwnnw yn "bechadures." Ar y sail yma, fe wrthwynebwyd ei etholiad gan gyfran o'r eglwys. Apeliwyd at y Cyfarfod