Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Misol, a'r canlyniad fu gadael Richard Prichard heb ei ethol. Bu hynny yn naturiol yn gryn dramgwydd i Jane y wraig, ond dioddefodd y gwr yr oruchwyliaeth anghristnogol yn ysbryd cristion. Gellir sylwi yma fod tad W. P. Williams, sef y Capten Henry Williams, yn bedwerydd ar ddeg ar lyfr eglwys Moriah, ac ymunodd ei wraig, hefyd, yn fore. Cyn cychwyn o'i long o Nerpwl y tro olaf y bu yno, cynhaliwyd cyfarfod gweddi yn y llong. Cenid gyda hwyl, Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau. Gyferbyn a Llandudno suddodd y llong a boddwyd pawb ar ei bwrdd. Yr ydoedd yn gyfaill mawr i Evan Richardson, a galarai ef ar ei ol fel un o'r teulu. Gan i W. P. Williams oroesi cyfnod yr hanes yma, ni thraethir yn neilltuol arno; eithr fe ganfyddir fod ganddo gymhwyster arbennig i ysgrifennu ar yr eglwys hon. Cryno o gorff a meddwl oedd Richard Evans. Efe oedd y gofalwr am gyfarfod gweddi chwech y bore ar ol Dafydd Jones, ac efe a ofalai am ysgol Isalun, ac ni chollai byth o'r naill na'r llall. Israeliad yn wir yn yr hwn nid oedd dwyll.

Mehefin 26, 1846, yn 84 oed, y bu farw Dafydd Jones y cwper. Mewn nodiad chwe llinell arno yn y Drysorfa (1846, t. 256), fe ddywedir ei fod yn un o'r rhai cyntaf a ddechreuodd yr achos yng Nghaernarvon. Eithr ni enwir ef yn y Methodistiaeth ymhlith y 4 neu 5 cyntaf i gyd. Dywedir, hefyd, iddo fod yn flaenor am yn agos i 50 mlynedd. Fe'i galwyd, gan hynny, ymhen oddeutu 9 mlynedd ar ol sefydlu'r eglwys. Hyd y gwyddys, efe oedd y blaenor cyntaf. Yr oedd nifer yr aelodau am rai blynyddoedd mor fychan, fel nad oes unrhyw le i gasglu y galwodd Evan Richardson, ar gymhelliad Elizabeth ei wraig, neb i'r swydd o'i flaen ef. Urddiad esgobaethol ydoedd yr eiddo ef, gydag ymyriad benywaidd yn yr achos, y fath a ddigwyddodd, mae'n ddiau, fwy nag unwaith, mewn urddiadau unbenaethol. Fe wneir y sylw yma arno yn y Methodistiaeth: "Un hynod, hefyd, oedd Dafydd Jones y cwper, ac un a fu'n ffyddlon iawn dros ei dymor. Gresyn na buasai rhywun cydnabyddus â'r gwr hwn wedi ysgrifennu ei hanes, gan hynoted ydoedd. Diau y buasai crynhodeb o'i lafur, ei ymadroddion, ac o'i gymeriad yn ffurfio traethawd tra dyddorol a buddiol; ond nid oes y fath grynhodeb wedi ei wneud, na gobaith, bellach, y ceir un." Ac eto, yr oedd y gyfrol y dywedir hyn ynddi yn dod allan drwy'r wasg ymhen wyth mlynedd ar ol marwolaeth Dafydd Jones.