Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Elizabeth Hughes (Uxbridge Square) mai gwael ei iechyd ydoedd ac mai dyna pam yr ataliwyd ef rhag myned i bregethu. A dywed ar ol morwyn iddo o'r enw Roberts (y Blue Bell wedi hynny, sef hen dafarn unwaith, ac wyres John Roberts Llangwm), a fu yn gweini arno am chwe blynedd, iddo gael adnewyddiad neilltuol wrth wrando'r Dr. Lewis Edwards ar y geiriau, Oherwydd dy drugaredd sydd yn dragywydd. Fe ofynnai iddi yn ymyl ei derfyn, "Gwrandewch! Wnewch chi fynnu cael crefydd iawn?" Bu mewn ymrafael â rhai aelodau oherwydd ei sel dros burdeb.

Bu farw Richard Evans Awst 27, 1853, yn 56 oed. Yr oedd yn wr o barch yn ei deulu, ac yn yr eglwys a'r byd. Yr oedd ei ie yn ie a'i nage yn nage. Nid oedd o ran doniau a chyrhaeddiadau ond cyffredin. Ymwelai â chleifion a thlodion gan weinyddu i'w hangenrheidiau. Bu'n arolygwr yr ysgol yn Isalun am 24 blynedd. Y diwrnod olaf y bu byw, ebe eil wraig wrtho, "Wel, Richard bach, y mae yn dda ganddoch Iesu Grist, onid ydyw?" Ebe yntau'n ol, "O! Mary, mae'n dda gan Iesu Grist am danaf finnau ers llawer blwyddyn, 'rwyn gwybod." Ebe hithau, "Mi fuasai'n dda iawn gennyf allu gweinyddu rhyw gysur i chwi yn awr." Ebe yntau, "O! Mary, y mae'r Cyfaill yma." (Drysorfa, 1854, t. 273.)

Tybia Mr. Norman Davies, oddiwrth gyfeiriad yn nyddlyfr Thomas Lewis at atgyweirio'r capel, yn 1854, mai yn y flwyddyn hon y rhowd seti ar lawr y capel yn lle'r meinciau blaenorol. £450 oedd dyled Moriah yn nechre 1853 a £340 yn nechre 1854. Cyfrifid yn nechre 1854 fod lle i 1,172 eistedd; yn 1856 i 1,236. Yn 1853 gosodid lleoedd i 800. Cyfartaledd pris eisteddle, swllt y chwarter, a derbynid £168 yn flynyddol oddiwrthynt. £160, fe welir, a fuasai'r swm ar gyfer 80o. Y mae bwlch ar gyfer y cwestiwn, pa ddefnydd a wneir gydag arian y seti? Dywedir na wneir casgl ar gyfer y ddyled. Nifer yr eglwys, 505. Casgl at y weinidogaeth, £80. Diarddelwyd 13 o aelodau. Agorwyd capel Siloh, Hydref 26, 1856. Talwyd i Richard Davies y saer, £210. 3s. 10c., ac i James Rees am y tir, £25. Yn 1859 y sefydlwyd eglwys yn Siloh. Swm dyled Moriah yn 1855, £270; yn 1856, £470. Gosodid seti yn 1856 i 891; y derbyniadau am y seti £178. 5s. Rhif yr eglwys, 560; y casgl at y weinidogaeth, £106. Nodir fod treuliau ysgoldy Tanrallt, yr atgyweirio ar Moriah a'r weinidogaeth yn £514.