Yn 1858 yr ymadawodd y Parch. Dafydd Jones i Dreborth. Y mae gan Robert Ellis Ysgoldy nodiad yn ei ddyddiadur ar hynny. "Ebrill 1. Cyfarfod Misol Caernarvon. Gwneud cryn helynt gydag ymadawiad D. Jones." Medi 23, 1859, cyflwynwyd iddo yn ei dŷ yn Nhreborth gloc bychan ynghydag arian, y cyfan yn dod i £104, fel cydnabyddiaeth o'i lafur fel gweinidog am 27 mlynedd. Soniai Henry Jonathan ar yr achlysur am ei bryder dirgelaidd a'i ofal gwastadol ef am yr achos. Gwrthod cyfarfod cyhoeddus ym Moriah a ddarfu'r gwr a anrhydeddid. Pan yng Nghaernarvon rhoid iddo £2 ar gyfer y Sul o 1855 ymlaen; cyn hynny £1. 1os. a £1. 5s. a £1. yn ol hyd at 1846. A dengys llyfr taliadau'r weinidogaeth am 1828—35 mai swllt a dderbyniai, yr un fath a'r brodyr cartrefol eraill, yn ystod y blynyddoedd hynny. Bu ym Moriah 5 waith yn 1846 a 4 gwaith yn 1857. Yr oedd ei barchedigaeth yn fawr yn y dref, er fod rhyw nifer yn wrthwynebol iddo, neu'n elyngar rai ohonynt, yn ei eglwys ei hun. Mae'n sicr iddo ddioddef llawer oddiwrth hynny. Er ei fod yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd Cymru, yn wr o feddwl diwylliedig wrth ystyried manteision ei amser, a chymeriad a pharch uchel iddo yn y dref a'r wlad, ac yn un o'r dynion mwyaf nawsaidd ac yn un o'r rhai callaf, cystal a'i fod yn gwneuthur gwaith pwysig yn ei eglwys, a dylanwad dirfawr iddo ar feddyliau, ac yntau heb dderbyn nemor ddim tâl i son am dano, a hynny am faith flynyddoedd; eto ni rwystrodd mo hynny i gyd iddo gael ei boenydio yn ddirgelaidd a chyhoeddus am flynyddoedd o amser. Fe ymserchid ynddo yn fawr gan liaws, er hynny. Seinid ei enw gydag oslef feddal, yn enwedig ar y sill olaf o'i enw bedydd, gan ei hen wrandawyr yng Nghaernarvon—Daf-ydd Jones! Yr oedd ysgrifennydd hyn o nodiadau yn gynefin â hynny o'i febyd wrth wrando ar scwrs ei fam. Iddi hi nid oedd hafal Daf-ydd Jones. "Pan y byddai o yn i chael hi!"—dyna'r pryd y byddai'n anghymarol; dyna'r pryd y clywid troadau gwefreiddiol y llais, ac y teflid pob teimlad i lesmair wynfydig. "Dawn oedd gan Daf-ydd Jones." Er heb ddywedyd hynny, eto fe awgrymid y gallai fod pethau eraill yn eraill yn rhagori, difrifwch Henry Rees, a phethau eraill yn eraill—ond dawn oedd y dirgelwch! "Peth crand iawn ydi dawn!" Ac yn y cymun drachefn, y fath urddas! y fath weddeidddra! y fath dynerwch sanctaidd, fel y codai'r cwpan i fyny yn ei law—"Y mae o'n cochi!"—a thôn y llais yn egluro'r
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/98
Gwedd