Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ystyr cyfrin. Ië, dawn, a dawn wedi ei gysegru; dawn diymdrech, didrwst, dilyffethair o ran corff a meddwl ac ysbryd; dawn heb geisio bod yn ddawn, yn dawel, yn urddasol, yn olldreiddiol; yn codi'r gynulleidfa gyda'i gilydd am fyrr funudyn drwy'r glesni teneuedig hyd at borth y nefoedd, ac yna yn rhoil trem i mewn, ac ar hynny, gydag ysmic y llygad, dyna'r weledigaeth, neu'r awgrym pell ohoni, drosodd, a'r bregeth ar ben, a'r meddwl yn dychwelyd yn ol, yn ol i'w hen gynefin, ond er hynny gyda rhyw adlewyrch yn y meddwl o'r goleu na fu erioed ar för neu dir. Meddai'r arglwyddiaeth yma ar deimladau amrywiol ddosbarthiadau o wrandawyr, i'w rhestru o'r isaf hyd yr uchaf. Edrydd y Parch. David Jones y Garreg ddu am Dr. Lewis Edwards yn dweyd, newydd fod yn gwrando arno, na welodd ddim erioed ym Milton ei hun yn rhagori mewn arucheledd ar ddernyn o'i eiddo ef ar y Croeshoeliad. (Atgofion am D. Jones, D. C. Evans, t. 141.) Ac edrydd D. C. Evans ar ol y Dr. Evan Roberts Penygroes (t. 101), y dywedai y Dr. W. Arnot, ar ol ei wrando yn traddodi'r cyngor yn y Bala yn 1844, er iddo glywed pregethwyr pob gwlad braidd, na theimlodd mo'r fath swyn yn yr un, ac na welodd mo'r fath ddylanwad ar y gynulleidfa, a hynny er nad oedd y Dr. Arnot ddim yn deall yr iaith. A dywedai ymhellach, pan y dywedid y geiriau "enaid anwyl," fel y gwneid bob yn awr ac eilwaith, ei fod yn teimlo'i wallt yn codi ar ei ben. Er hynny, nid oedd. pob dosbarth, yn hollol, yn cael eu cludo gan ei ddawn ef yr un fath a chyda'i frawd, John Jones, a hynny er fod pawb yn ei edmygu yntau. Gallesid rhoi enghreifftiau eraill, ond bydd eiddo'r Parch. Evan Jones yn ddigon. Yr oedd efe yn aelod ym Moriah yn 1856-7, a dywed fel yma yn yr Atgofion: "Meddai'r llais pereiddiaf, yn neilltuol pan ymddyrchafai i oslef. Pregeth wastad, efengylaidd oedd ganddo, yn cael ei darllen, bob amser yn ddymunol, ac yn achlysurol gyda graddau o hwyl. Cae ef yn gyson gynulleidfa astud, dda, ac ae drwy'r holl wasanaeth gydag urddas mawr. Yn y seiat, er hynny, meddir, y rhagorai: dylifai ei ymadroddion fel gwin, a chanmolai pawb y wledd." Dichon na chlywodd Mr. Evan Jones mohono, y pryd hwnnw, ar ddim hanner dwsin o Suliau. Os darllen y byddai ym Moriah, rhaid, debygid, y darllenai gyda rhyddid hollol yn ei ddull gan amlaf. Fe gymerodd yr awenau yn naturiol ar ei ddyfodiad yma, er nad oedd y pryd hwnnw